Newyddion S4C

'Parhau i fonitro' llosgfynydd La Palma wedi i'r ffrwydrad ddod i ben

27/12/2021
La Palma InVolcan

Mae'r gwaith o fonitro llosgfynydd ar ynys La Palma yn parhau wedi i'r ffrwydrad ddod i ben.

Bu'r Cumbre Vieja yn llosgi am bron i dri mis, ond fe ddaeth i ben yn swyddogol ar ddydd Nadolig.

Mae ymchwilwyr yn parhau i fonitro allyriadau nwy ar yr ynys.

Bu'n rhaid i filoedd o bobl symud o'u cartrefi yn sgil effeithiau'r llosgfynydd.

Mae adroddiadau bod 3,000 o adeiladau wedi eu dinistrio gan y lafa ond nid oedd neb wedi eu hanafu o ganlyniad i effeithiau'r llosgfynydd.

Hwn oedd y llosgfynydd a ffrwydrodd am y cyfnod hiraf erioed yn hanes yr ynys, yn ôl swyddogion.

Llun: INVOLCAN

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.