Newyddion S4C

Tywydd eithafol yn effeithio ar fywyd gwyllt y DU, meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Coeden Storm Arwen Heddlu'r De Abertawe

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhybuddio fod tywydd eithafol a thrychinebau naturiol yn tarfu ar fywyd gwyllt y Deyrnas Unedig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llond llaw o ddigwyddiadau tywydd eithafol ac amodau tywydd anarferol wedi achosi dinistr dros diroedd ac arfordiroedd pwysig, meddai’r elusen.

Fe welodd mis Mawrth ac Ebrill sych danau gwyllt yn rhuo trwy’r mynyddoedd Mourne yng Ngogledd Iwerddon a Rhosydd Marsden yn Sir Efrog, gan effeithio ar 200 hectar a 520 hectar yn eu tro.

'Yr hinsawdd â bioleg bywyd gwyllt ddim yn cyd-fynd'

Dywed Ben McCarthy, pennaeth cadwraeth natur gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yr ehedydd, y biben ddôl a’r gïach ymhlith yr adar sydd wedi eu heffeithio’n negyddol.

Fodd bynnag, mae blodau gwyllt fel tegeirianau pyramidaidd, rhywogaethau adar gan gynnwys môr-wenoliaid yr afon ac afancod wedi elwa o’r newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Mr McCarthy nad yw patrymau’r hinsawdd a’r tywydd "yn cyd-fynd â bioleg naturiol a chronoleg llawer o'n bywyd gwyllt".

Maen nhw’n galw am sicrhau fod mwy o waith cadwraeth yn cael ei gyflawni ar frys.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.