Newyddion S4C

Covid-19: Cofnodi'r nifer uchaf o achosion mewn 24 awr

24/12/2021
Profi Covid-19

Mae 6,755 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r nifer uchaf i gael ei gofnodi mewn 24 awr yng Nghymru hyd yma. 

Cafodd 10 o farwolaethau newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 662.3.

Bellach mae 577,043 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,545 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd (908.1), Ynys Môn (903.7) a Bro Morgannwg (780.0).

Hyd yma mae 2,486,737 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,296,242 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,490,668 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar ddashfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.