Covid-19: 10 o farwolaethau yn rhagor a 3,292 achos newydd yng Nghymru
Mae 3,292 o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 10 o farwolaethau newydd eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi cynyddu eto i 633.0
Bellach mae 570,288 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,535 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofrestru yng Nghymru.
Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn (856.6), Caerdydd (823.1) a Bro Morgannwg (738.1).
Mae gan Ceredigion (434.7), Sir Caerfyrddin (470.9) a Phowys (494.6) y cyfraddau isaf o achsoion ymhob 100,000 o bobl.
Hyd yma mae 2,485,837 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,294,701 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,452,728 o bobl wedi derbyn brechiad atgyfnerthu.