Dynes wedi marw ar ôl syrthio ar yr Wyddfa

Bu farw dynes ar ôl disgyn o’r Grib Goch yn agos i gopa’r Wyddfa.
Daeth y drasiedi i'r amlwg wedi i Heddlu'r Gogledd apelio am gymorth i ddod o hyd i gi oedd yn eiddo'r ddynes.
Syrthiodd y ddynes ddydd Sul o gefnen gul y Grib Goch sy'n arwain i fyny at yr Wyddfa yn Eryri.
Aeth achubwyr i chwilio amdani wedi iddyn nhw gael eu galw gan ei phartner ac eraill oedd yn yr ardal ar ôl iddyn nhw glywed gweiddi.
Cafodd hofrennydd achub gwylwyr y glannau o Gaernarfon ac achubwyr mynydd Llanberis eu galw allan.
Cafodd partner y ddynes ei hebrwng yn ôl i ddiogelwch gan wirfoddolwyr achub mynydd.
Mwy am y stori yma.