Covid-19: Chwech o farwolaethau a 2,375 achos newydd yng Nghymru
Mae 2,375 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd chwech yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 575.
Cafodd 59 o achosion newydd o'r amrywiolyn Omicron eu cofnodi hefyd.
Bellach mae 562,333 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,522 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn (815 ymhob 100,00 o'r boblogaeth), Sir y Fflint (675 ymhob 100,000) a Chaerdydd (670 ymhob 100,000).
Hyd yma mae 2,482,756 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,289,735 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,331,804 o bobl wedi derbyn brechiad atgyfnerthu ar ôl eu dosau cyntaf.