Gohirio llawdriniaethau yn y gogledd er mwyn dosbarthu'r brechlyn atgyfnerthu
Bydd llawdriniaethau ac apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gohirio yn y gogledd o ddydd Llun er mwyn darparu mwy o frechlynnau atgyfnerthu.
Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn gwneud eu gorau glas i roi pigiadau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys dros y 10 diwrnod nesaf, cyn cynnydd disgwyliedig mewn achosion o amrywiolyn Omicron ym mis Ionawr.
Maen nhw'n dweud bod sicrhau'r nod hwnnw yn "hollbwysig" er mwyn amddiffyn gwasanaethau'r GIG ym mis Ionawr.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn derbyn cynnig am frechiad atgyfnerthu erbyn diwedd y mis.
Dywed y bwrdd bod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod modd lleoli staff "mor effeithiol â phosibl".
Bydd pob gwasanaeth arall nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gohirio er mwyn rhyddhau staff i roi cymorth gyda'r ymdrech frechu, yn ôl y bwrdd.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn pwysleisio y bydd yr holl lawdriniaethau brys, triniaethau canser brys a gwasanaethau mamolaeth yn parhau ym mhob un o dri phrif ysbyty'r bwrdd.
Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Deallwn y bydd hyn yn newyddion pryderus i gleifion sy'n disgwyl cael llawdriniaeth neu i dderbyn eu hapwyntiad dros yr wythnosau sydd i ddod ac ymddiheuraf yn ddiffuant am hyn.
"Byddwn yn adolygu'r newidiadau hyn yn rheolaidd yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd a chyfraddau trosglwyddo'r firws ar draws Gogledd Cymru."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r cyhoeddiad yn "ergyd ddinistriol" gan ddweud fod rhestrau aros "eisoes yn llawer rhy hir" hyd yn oed cyn y pandemig.
Bydd y newid i wasanaethau iechyd yn y gogledd yn parhau tan 4 Ionawr, 2022.