Gwahardd gwerthiant mawn i arddwyr yng Nghymru a Lloegr erbyn 2024

Bydd gwerthiant mawn i arddwyr yng Nghymru a Lloegr i gael ei wahardd erbyn 2024 er mwyn amddiffyn yr hinsawdd a natur.
Dywedodd gweinidogion llywodraeth y DU eu bod hefyd yn anelu at roi diwedd ar ddefnydd mawn yn y sector garddwriaeth broffesiynol erbyn 2028.
Gosododd y llywodraeth darged yn 2011 i fanwerthwyr compost ddod â gwerthiant mawn i ben erbyn 2020. Ond dim ond 25% a ostyngodd y defnydd o fawn o 2011-2019 ac roedd cynnydd o 9% yn 2020 yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd gweinidog yr amgylchedd y DU, Rebecca Pow: “Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r gwaharddiad [ar werthu mawn i arddwyr] erbyn diwedd y senedd hon - mae hwnnw’n ymrwymiad llwyr.”
Mawn yw’r storfa garbon fwyaf y DU. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, gall mawndiroedd sydd mewn cyflwr gwael sychu ac ocsideiddio, a bydd hyn yn achosi iddynt allyrru carbon. Bydd mawndir sydd mewn cyflwr da, ar y llaw arall, yn ffurfio mawn ac, o ganlyniad, yn dal ac yn storio carbon.
Mae tua 70% o fawn yn cael ei werthu i arddwyr a 30% yn cael ei ddefnyddio gan dyfwyr proffesiynol. Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y byddai gwaharddiad ar y ddau ddefnydd yn torri allyriadau CO2 o 4m tunnell yn y ddau ddegawd nesaf.