'Cam mawr ymlaen' i sicrhau llais i fyfyrwyr Cymraeg prifysgol Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu y bydd is-lywydd y Gymraeg llawn amser yn ymuno â'r tîm swyddogion o fis Gorffennaf 2023.
Mae'r newyddion wedi cael ei groesawu gan fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr.
Daw'r penderfyniad wedi ymgyrchu brwd ac angerddol gan y myfyrwyr ers sawl blwyddyn.
Bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr nawr yn cynnig gwelliant i is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr, i nodi bod rhaid cynnwys is-lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg o fewn y tîm sabothol.
Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Annell Dyfri, swyddog Cymraeg yr undeb, sydd yn gwneud y swydd ar hyn o bryd yn rhan-amser.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu y bydd is-lywydd y Gymraeg llawn amser yn ymuno â'r tîm swyddogion yn 2023.
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) December 17, 2021
Yn ôl Annell Dyfri - sy'n gweithio fel Swyddog y Gymraeg rhan amser i'r Undeb, mae'r penderfyniad yn gam mawr ymlaen.
Mwy: https://t.co/VacblecqiI pic.twitter.com/9kpYJtQ6R0
Cam nesaf y Bwrdd fydd cynnig y gwelliannau hyn i Senedd y Myfyrwyr i'w cymeradwyo yn ystod misoedd cyntaf 2022.
Daw'r swydd i rym wedi etholiadau gwanwyn 2023 a bydd "cefnogaeth well" yn cael ei rhoi i UMCC a'r Swyddog Cymraeg rhan-amser dros y flwyddyn i ddod cyn cyflwyno'r swydd llawn-amser, yn ôl yr undeb.
Bydd y newidiadau hyn yn gwarantu swydd yr is-lywydd, gan fod y newidiadau yn cynnig “clo triphlyg” yn nogfennau llywodraethol Undeb y Myfyrwyr.
Y mis diwethaf roedd myfyrwyr wedi cyhuddo Undeb Myfyrwyr Caerdydd o “fethu â chadw at addewidion” i greu rôl Swyddog Cymraeg llawn amser er bod pleidlais o blaid wedi ei gwneud tair blynedd yn ôl.