Newyddion S4C

Llais arall o Gymru ar donfeddi BBC Radio 1 dros y Nadolig

09/12/2021

Llais arall o Gymru ar donfeddi BBC Radio 1 dros y Nadolig

Bydd llais arall o Gymru i’w glywed ar donfeddi gorsaf BBC Radio 1 y Nadolig hwn.

Mae Ifan Sion Davies yn llais cyfarwydd i nifer o wrandawyr BBC Radio Cymru, ond bydd yn mentro i un o orsafoedd fwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig dros yr ŵyl.

Mae’n un o’r 30 o gyflwynwyr cafodd eu dewis o filoedd o ymgeiswyr i fod yn rhan o’r ‘Radio 1’s Christmas Presenters’.

“Yn exciting iawn gesi alwad ryw bythefnos yn nôl yn deud fy mod wedi cal fy newis yn un o’r 30 fydd yn cyflwyno Radio 1 rhwng y ‘Dolig a Blwyddyn Newydd fel rhan o’i Christmas takeover nhw,” meddai Ifan.

Mae’r cyflwynydd 27 oed, sy’n un o brif leisydd y band Sŵnami, eisoes yn gweithio i BBC Radio Cymru fel cynhyrchydd a chyflwynydd.

“Ma Radio 1 wedi bod yn gwneud hyn ers rhai blynyddoedd a nesi benderfynu mynd amdani 'leni.

Image
Ifan Sion Davies

“Nesi jyst goro gyrru demo bach byr mewn efo clipiau o honna fi ar y radio, nes i jyst rhoi casgliad o stwff dwi wedi ei wneud efo Radio Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, rhoi nhw at ei gilydd a gyrru hwnna mewn, ac anghofio bob dim am dana fo.

“Gesi alwad ffôn ryw bythefnos yn nôl yn dweud bo’ fi wedi cyrraedd y rhestr fer, ac wedyn wythnos ar ôl hynny gesi alwad ffôn yn dweud fy mod wedi cael fy newis yn un o’r 30.”

Bydd Ifan i’w glywed yn cyflwyno The Power Down Playlist ar 27, 28 a 29 o Ragfyr, a bydd modd gwrando eto o 27 Ionawr ymlaen.

Bydd Ifan yn cadw sedd cyflwynydd y rhaglen dros y cyfnod, sef neb llai na’r Gymraes, Sian Eleri.

Fe ddaeth Sian i amlygrwydd drwy’r un cynllun yn ystod Nadolig 2019, ac ers hynny wedi gwneud enw i’w hun fel cyflwynydd y Chillest Show.

Yn ôl Ifan, mae cael cyfle i ddarlledu ar yr orsaf yn gwireddu breuddwyd.

“Nesi dyfu fyny yn gwrando ar Huw Stephens ar y radio… a rŵan Sian Eleri yn mynd o nerth i nerth.

“Ma’n grêt clywed lleisiau Cymraeg a dwi’n edrych ymlaen at gael ymuno efo nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.