Gohirio gigs y Stereophonics yn sgil pryderon am Covid-19
Mae gigs Stereophonics yr wythnos nesaf yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi cael eu gohirio.
Roedd y sioeau, a oedd hefyd yn cynnwys setiau gan Tom Jones a Catfish and the Bottlemen, i fod i gael eu cynnal ar 17 a 18 Rhagfyr.
Ond nawr, maent wedi cael eu haildrefnu ar gyfer dydd Gwener, 17 Mehefin a dydd Sadwrn, 18 Mehefin 2022.
Bydd yr holl docynnau a brynwyd ar gyfer y sioeau gwreiddiol yn parhau'n ddilys.
Daw hyn wrth i bum achos o'r amrywiolyn Omicron gael eu cadarnhau yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn disgwyl i "don aruthrol" o achosion gyrraedd uchafbwynt erbyn diwedd Ionawr.
Following the announcement today made by the Principality Stadium & Kilimanjaro Live, unfortunately the shows in Cardiff on the 17th and 18th December have had to be been postponed due to the ongoing Covid-19 pandemic and they will now take place on the 17th & 18th June 2022… pic.twitter.com/UoWxkvva1Z
— stereophonics (@stereophonics) December 8, 2021
Mae'r hyrwyddwyr a'r stadiwm wedi dweud na fyddai'r sioeau yn gallu cydymffurfio â chyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf oherwydd y cynnydd mewn achosion o'r amrywiolyn Omicron.
Roeddent hefyd yn ymddiheuro i bawb a oedd fod i fynychu a gweithio'r cyngherddau.
Hwn oedd gig gyntaf y Stereophonics yng Nghaerdydd ers iddynt werthu pob tocyn ar gyfer sioeau a ddigwyddoddodd ym mis Mawrth 2020, dyddiau yn unig cyn i Gymru ddechrau ar y cyfnod clo Covid cyntaf.
Cafodd y band o Gwm Cynon eu beirniadu am chwarae'r ddwy gig ar yr un penwythnos y cafodd gêm rygbi Cymru ei gohirio wedi i bryderon am y feirws ddod i'r amlwg.
Ar ôl y gig, dywedwyd nad penderfyniad y band oedd eu cynnal gan ei fod yn benderfyniad i'r awdurdodau.
Bygythiad
Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r "cyngor iechyd cyhoeddus clir oedd nad oedd angen canslo digwyddiadau torfol".
Fodd bynnag, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach gwaharddwyd pob cyfarfod torfol wrth i Gymru ddechrau y cyfnod clo Covid cyntaf.
Mae'r Libertines hefyd wedi canslo eu gig ym mhrifddinas Cymru ar 9 Rhagfyr, oedd fod i gael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Stadiwm Principality a'r hyrwyddwr cyngerdd Kilimanjaro Live: "Mae Stadiwm a hyrwyddwyr Principality Kilimanjaro Live yn anffodus yn cyhoeddi gohirio'r sioeau Stereophonics a drefnwyd yn y stadiwm ar gyfer Rhagfyr 17eg a'r 18fed.
"Rydym wedi bod yn cydweithio drwy gydol y broses o gyflwyno'r sioeau hyn ac rydym wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf ar ganllawiau cyfredol a gofynion cyfreithiol ynghylch gorchuddion wyneb.
"Yn anffodus, wrth i fygythiad amrywiolion newydd ddod i'r amlwg a'r cyfyngiadau sydd ar waith fel 'lleoliad dan do', mae'r sioeau'n amhosibl eu rhedeg yn ddiogel a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau'r llywodraeth a chyfraith Cymru."