'Anghwrtais': Keir Starmer yn ymddiheuro i Liz Saville Roberts am ddweud ei bod yn ‘siarad rybish’
Mae Syr Keir Starmer wedi ymddiheuro i Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd am sylw a oedd meddai yn “rhy anghwrtais” yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf.
Mewn trafodaeth am y cytundeb newydd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd ddydd Mawrth, roedd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau Aelodau Seneddol.
Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Fe wnaeth y Prif Weinidog ddadlau unwaith, ac rydym yn dyfynnu hynny, ‘dylem gadw manteision y farchnad sengl’.
“O ystyried ei duedd ddiweddar i ddiystyru barn pobl eraill, beth fyddai’n ei ddweud petai’n cael y cyfle i siarad â’i hun pan oedd yn iau?”
Atebodd Syr Keir: “Rwy’n credu fy mod i wedi bod yn rhy anghwrtais yr wythnos diwethaf ac rwy’n ymddiheuro.
“Rwy’n parchu’r aelod anrhydeddus.”
Roedd Mr Starmer yn cyfeirio at ddadl yn ystod sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mercher, pan ddywedodd wrth Ms Saville ei bod yn “siarad rybish”.
Roedd hynny wedi ei ddweud yng nghyd-destun trafodaeth dros sylwadau a wnaeth mewn araith ddydd Llun.
Dywedodd bryd hynny bod risg y bydd y DU yn dod yn “ynys o ddieithriaid”, gan alw am “system fewnfudo yn seiliedig ar egwyddorion rheoli, dethol a thegwch”.
Wrth drafod yr araith ddydd Mercher, dywedodd Ms Saville Roberts bod Sir Keir wedi “siarad ar un adeg am dosturi ac urddas i fewnfudwyr, ac am amddiffyn symudiad rhydd” ond ei fod bellach yn “siarad am ‘ynys o ddieithriaid’ ac ‘chymryd rheolaeth yn ôl’”.
“Mae’n ymddangos mai’r unig egwyddor y mae’n ei hamddiffyn yn gyson yw pa un bynnag a glywodd ddiwethaf mewn grŵp ffocws," meddai.
"Felly gofynnaf iddo, a oes unrhyw gred sydd ganddo sy’n goroesi wythnos yn Downing Street?”
Ysgydwodd Ms Saville Roberts ei phen wrth i Syr Keir ateb: “Oes, y gred ei bod hi’n siarad rybish.”
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Rydw i eisiau arwain gwlad lle rydyn ni’n cyd-dynnu a cherdded i’r dyfodol fel cymdogion ac fel cymunedau, nid fel dieithriaid, ac mae colli rheolaeth ar fudo gan y llywodraeth ddiwethaf wedi rhoi hynny i gyd mewn perygl.
"A dyna pam rydyn ni’n trwsio’r system yn seiliedig ar egwyddorion o reoli, dethol a thegwch.”