Newyddion S4C

Cyn-chwaraewr Cymru a Chaerdydd Phil Dwyer wedi marw

01/12/2021
Phil Dwyer

Mae'r cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru a Chaerdydd Phil Dwyer wedi marw yn 68 oed, mae Cymdeithas Pêl-Droed Cymru wedi cadarnhau. 

Treuliodd yr amddiffynnwr 16 mlynedd gyda'i dîm lleol Caerdydd gan ennill Cwpan Cymru tair gwaith a dyrchafiad i'r hen Ail Gynghrair ddwywaith. 

Mae Dwyer, a gafodd ei adnabod fel Joe, yn parhau i ddal y record am chwarae'r nifer fwyaf o gemau i'r Adar Gleision wrth iddo ymddangos 575 o weithiau dros ei glwb. 

​​​​​​Llwyddodd hefyd i ennill deg o gapiau i Gymru ar ôl chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Iran yn 1978. 

Mewn datganiad dywedodd clwb pêl-droed Caerdydd: "Mae pawb yn y clwb yn hynod o drist i glywed am farwolaeth Phil Dwyer."

"Yn Aderyn Glas trwy gydol ei oes, roedd Phil yn ymweld â Ninian Park a Stadiwm Dinas Caerdydd yn aml a byddwn yn gweld colled ar ei ôl.

"Cwsg mewn hedd Phil - un o oreuon Caerdydd."

Llun: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.