Boris Johnson yn gwrthod galwadau Cymru a'r Alban i gyflwyno rheolau teithio llymach
Mae Boris Johnson wedi gwrthod galwadau prif weinidogion Cymru a'r Alban i gyflwyno rheolau mwy llym i deithwyr fel ymateb i'r amrywiolyn newydd Covid-19.
Mewn llythyr ar y cyd fore Llun, fe wnaeth Nicola Sturgeon a Mark Drakeford galw ar y prif weinidog am gyfarfod COBRA brys yn sgil y datblygiad diweddaraf gyda'r amrywiolyn Omicron.
Yn ôl The Evening Standard, dywedodd llefarydd swyddogol Boris Johnson nid yw cyfarfod o'r fath wedi'i drefnu ond bod y Llywodraeth y DU yn cyd-drefnu ei ymateb i'r amrywiolyn gyda'r gwledydd datganoledig.
Ychwanegodd y llefarydd y bydd cyhoeddi unrhyw gyfyngiadau ychwanegol ar deithwyr yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant teithio.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cryfhau'r rheolau i deithwyr ers i'r amrywiolyn gael ei adnabod ar gyfandir Affrica, gan orfodi pobl i gymryd prawf PCR ar yr ail ddiwrnod ers dychwelyd i'r DU.
Yn y llythyr, fe wnaeth Ms Sturgeon a Mr Drakeford alw am ail gyflwyno'r gofyniad i hunanynysu am wyth diwrnod i'r rhai sy'n dychwelyd i'r Deyrnas Unedig - gan ailgyflwyno'r prawf PCR ar ddiwrnod wyth.
Dywedodd y ddau brif weinidog eu bod hefyd yn awyddus i weld y dystiolaeth ddiweddaraf am yr amrywiolyn newydd er mwyn deall y darlun rhyngwladol a'r effaith y gallai hynny gael ar y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth Mr Drakeford a Ms Sturgeon alw am gydweithio rhwng yr holl lywodraethau datganoledig, gan ddweud mai dyma'r ffordd fwyaf "effeithiol" o reoli'r feirws.