Newyddion S4C

Cymru'n nodi Dydd y Rhuban Gwyn gan ymgyrchu dros ddiogelwch menywod

Protest Sarah Everard

Wrth i Gymru nodi Dydd y Rhuban Gwyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhyw wedi effeithio ar fywydau menywod "ers yn rhy hir o lawer”.

Mae 25 Tachwedd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ac yn dechrau 16 diwrnod o weithredu gyda'r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. 

Fel rhan o'r diwrnod mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n gwerthuso'i gwaith wrth geisio atal trais yn erbyn menywod, gan gynnwys trais domestig a thrais rhywiol. 

Fe fydd y llywodraeth hefyd yn cynnal ymgynghoriad o 7 Rhagfyr ymlaen i gasglu barn ar sut y gall Cymru fod yn lle mwy diogel i fenywod yn y dyfodol. 

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, bod yn rhaid i ddynion a bechgyn herio ymddygiad treisgar a rhywiaethol tuag at fenywod. 

“Rwy am anfon neges glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy'n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad," meddai. 

"Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer."

"Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad." 

Llun: Tim Dennel

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.