Newyddion S4C

Olaf Scholtz yn cael ei benodi yn Ganghellor newydd yr Almaen

Berlin

Mae Olaf Scholtz wedi'i benodi yn Ganghellor newydd ar yr Almaen, wrth i gytundeb clymblaid newydd gael ei gwblhau i ffurfio llywodraeth yn y wlad. 

Yn ôl The Guardian, mae plaid Scholtz, y Democratiaid Cymdeithasol (SPD), wedi cytuno i gyd-weithio gyda'r Gwyrddion a'r Rhyddfrydwyr fel rhan o'r 'Glymblaid Goleuadau Traffig'.

Treuliodd y pleidiau ddeufis mewn trafodaethau i ffurfio llywodraeth ar ôl i'r SPD ennill yr etholiad ym mis Medi heb fwyafrif. 

Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen gael arweinydd newydd mewn 16 mlynedd ar ôl i Angela Merkel benderfynu rhoi'r gorau i'r swydd cyn yr etholiad. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.