Yr Urdd yn ymgeisio am ddau deitl record byd ar ei canmlwyddiant
Mae mudiad Urdd Gobaith Cymru yn bwriadu ymgeisio am ddau deitl Guinness World Record i nodi ei canmlwyddiant.
Fel mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru, bydd yr Urdd yn dathlu ei benblwydd ar 25 Ionawr 2022.
Amcan yr her yw cael y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu Hei Mistar Urdd i’w uwchlwytho i Facebook, ac ar Twitter, rhwng 10.45am ac 11.45am gyda hashnod unigryw, a rennir yn fis Ionawr.
Mae Prif Weithredwr yr Urdd wedi galw ar bawb i helpu’r Urdd i ennill y teitl.
“Galwaf ar holl ysgolion Cymru, aelwydydd, gwirfoddolwyr, busnesau a mudiadau, ac aelodau hen a newydd i ymuno ym mharti mwyaf ein hanes!
“Mae hwn yn gyfle i chi ddathlu ac yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu fawr i wneud yr Urdd yn fudiad allweddol pwysig i Gymru a’r Cymry.
"Cofrestrwch i fod yn rhan o’r parti a’r ymgais am ddau deitl Guinness World Record ddeufis i heddiw, ac i weld enw eich ysgol, aelwyd neu sefydliad ar fap o Gymru ar ein gwefan, a rhannwch eich bod wedi ymuno gan ddefnyddio #Urdd100.”
Ers 1922, mae’r Urdd wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon, celfyddydol, gwirfoddol a thu hwnt yn y Gymraeg i dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc.
Ddydd Iau, mae’r mudiad wedi cyhoeddi rhai o’r cynlluniau ar gyfer blwyddyn o ddathlu i nodi’r garreg filltir.
Bydd dathliadau’r flwyddyn yn dechrau gyda pharti pen-blwydd mwyaf yn hanes y mudiad.
Cynhelir parti arbennig ar gyfer ysgolion Cymru yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, a ddarlledir yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Blwyddyn i’w chofio
Ychwanegodd Siân Lewis: “Does dim dwywaith fod y cyfnod ers mis Mawrth 2020 wedi bod y cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes. O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu’n rhaid cau ein gwersylloedd a daeth ein gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol i stop.
“Ond, rydym yn ail-adeiladu, ac mi fydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn flwyddyn i’w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchiad o’n hysbryd a’n huchelgais.
Bydd dathliadau i’w gweld drwy gydol flwyddyn, gyda theithiau rhyngwladol, chwaraeon, cyngerdd, a rhaglen arbennig sy'n edrych nôl ar Langrannog drwy’r degawdau.
Mae cartref swyddogol archif yr Urdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi croesawu Mistar Urdd i ymweld â’i archif ei hun ac maent yn awyddus i atgoffa pawb o bwysigrwydd archifau fel cofnod hanesyddol o bwys.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae’r Urdd yn parhau i fod yn fudiad cenedlaethol anhepgorol sy’n dal i gyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc a hyrwyddo’r Gymraeg yr un pryd, a hynny canmlynedd ers iddo gael ei sefydlu.
“Ni ellid mesur maint cyfraniad y mudiad i’n bywyd cenedlaethol a braf yw medru dweud fod llawer o waith y mudiad wedi’i gofnodi yma yng nghasgliadau’r Llyfrgell, mewn archif, llyfrau, sain a delweddau symudol. Mae’r cyfan yn brawf o weithgaredd mudiad y dylem ni i gyd fod mor falch ohono. Braint o'r mwyaf ydy cael bod yn rhan o ddathliadau.”