Dyn 31 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd
24/11/2021
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Cafodd y dyn sydd heb ei adnabod yn swyddogol ei drywanu ar Stryd Hansen, Tre-biwt.
Y gred yw ei fod yn ddyn lleol 31 oed.
Mae dyn 44 oed wedi ei arestio yn ardal Y Sblot o'r brifddinas ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Nid yw swyddogion Heddlu'r De yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth y dyn.