Apêl ariannol i godi cerflun o Cranogwen yn cyrraedd y nod

Mae apêl codi arian ar gyfer gosod cerflun i un o fenywod mwyaf arloesol y 19eg ganrif wedi cyrraedd y nod o gasglu £20,000.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cerflun maint llawn o Cranogwen - sef enw barddol Sarah Jane Rees (1839-1916) yng ngardd gymunedol Llangrannog, Ceredigion.
Mae Cranogwen yn cael ei chofio fel bardd, athrawes, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd.
Wrth ymateb i gyrraedd y targed ariannol, dywedodd y tîm codi arian a drefnwyd gan Anne-Marie Bollen, un o drigolion Llangrannog, ei fod yn “newyddion rhagorol”.
Darllewnch y stori'n llawn gan Nation.Cymru.
Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru