Pobl Awstria'n paratoi ar gyfer cyfnod clo newydd

Fe fydd pobl yn Awstria yn byw dan gyfnod clo newydd o ddydd Llun ymlaen.
Am 10 diwrnod bydd yn rhaid i bobl aros adref, gan eithrio mynd i'r gwaith, siopa am hanfodion ac ymarfer corff.
Roedd cynlluniau cychwynnol i gyflwyno’r cyfnod clo i’r rheiny sydd heb eu brechu yn unig.
Bydd brechiadau yn erbyn Covid-19 yn orfodol o fis Chwefror y flwyddyn nesaf yn y wlad.
Mae protestiadau yn erbyn cyfnodau clo wedi eu cynnal ar draws gyfandir Ewrop dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys yng Ngwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal a’r Swistir.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio y gallai Ewrop weld 500,000 yn fwy o farwolaethau erbyn y gwanwyn os na fydd rhaglenni brechlynnau yn datblygu.
Darllenwch y stori’n llawn yma.