Newyddion S4C

Arestio tri ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

21/11/2021
A548

Mae tri o bobl wedi'u harestio ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pensarn yn Abergele o gwmpas 22:00 yn dilyn adroddiad o BMW du yn taro cerddwr. 

Cafodd y dyn 63 oed ei gludo i ysbyty Glan Clwyd ond bu farw yn ddiweddarach o'i anafiadau.  

Cafodd tri sydd eu harestio yn gysylltiedig â'r digwyddiad ar ôl i'r car fethu â stopio yn dilyn y gwrthdrawiad. 

Fe fyddan nhw'n cael eu holi'n ddiweddarach ddydd Sul.

Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.