Newyddion S4C

Protestiadau Covid yn Yr Iseldiroedd yn troi'n ffyrnig am ail noson

Al Jazeera 21/11/2021

Protestiadau Covid yn Yr Iseldiroedd yn troi'n ffyrnig am ail noson

Mae protestiadau yn erbyn rheolau coronafeirws yn Yr Iseldiroedd wedi troi'n ffyrnig am ail noson.

Roedd protestwyr yn gwrthwynebu mesurau newydd sydd wedi eu cyflwyno mewn ymateb i bedwaredd don y feirws sy'n effeithio ar nifer o wledydd ar gyfandir Ewrop.

Mae'r mesurau wedi eu cyflwyno am gyfnod o dair wythnos mewn ymdrech i arafu lledaeniad y feirws.

Mae Llywodraeth Yr Iseldiroedd yn cynllunio rhwystro pobl sydd heb gael eu brechu rhag mynychu rhai lleoliadau penodol.

Cafodd pum swyddog heddlu eu hanafu yn ninas Yr Hâg, gydag un ohonynt wedi derbyn anafiadau difrifol, yn ôl Al Jazeera.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Danny Kemp / AFP / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.