Newyddion S4C

Ryan Reynolds i gymryd saib o'r sgrin fawr i ganolbwyntio ar CPD Wrecsam

Nation.Cymru 19/11/2021
Ryan Reynolds

Mae'r actor Ryan Reynolds wedi cadarnhau y bydd yn cymryd seibiant o'i yrfa er mwyn canolbwyntio ar ei fusnesau, sy'n cynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae Reynolds a'i gyd-actor Rob McElhenney wedi bod yn berchen ar y clwb ers 2020.

Mewn cyfweliad gyda'r Times, dywedodd ei fod am gymryd saib o'r sgrin fawr y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yn y cyfweliad fod "Wrecsam eisoes yn rhagorol" cyn iddo gyd-brynu'r clwb.

Darllenwch fwy ar y stori gan Nation.Cymru yma.

Llun: Gage Skidmore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.