Newyddion S4C

Gohirio streic 400 o yrwyr bysiau Arriva yn y gogledd

18/11/2021
Bws Arriva
bws arriva

Mae streic gan bron i 400 o yrwyr bysiau Arriva Cymru oedd i fod i barhau am bum wythnos wedi ei gohirio.

Cyhoeddodd y cwmni fod y streic wedi dod i ben yn dilyn rhagor o drafodaethau gydag undeb Unite.

Dechreuodd y streic am 06.00 fore dydd Sul mewn ymgais gan y gyrwyr i gael codiad cyflog oedd yn gyfatebol i’r hyn sy'n cael ei roi i weithwyr yng ngogledd orllewin Lloegr.

Roedd gwahaniaeth cyflog o £1.81 yr awr yn bodoli rhwng gyrwyr Arriva Cymru a'u cydweithwyr yn Lloegr.

Dywedodd Swyddog Rhanbarthol Unite, Jo Goodchild: “Mae Unite yn atal y gweithredu ddiwydiannol yn erbyn Arriva yn dilyn cynnig tâl gwell gan y cyflogwr.

“Byddwn nawr yn gofyn i'n haelodau bleidleisio ar y cynnig newydd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.