Cymeradwyo trosglwyddo’r Eglwys Norwyaidd a'r Hen Lyfrgell o ofal Cyngor Caerdydd
Bydd yr Eglwys Norwyaidd a'r Hen Lyfrgell yn cael eu trosglwyddo o ofal Cyngor Caerdydd i gyfundrefnau preifat.
Daw'r penderfyniad gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar ôl i adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2018 amlinellu'r gost o gadw'r ddau adeilad dan reolaeth y cyngor.
Mae'r ddau safle wedi dioddef problemau ariannol dros y blynyddoedd oherwydd diffyg elw a chostau cynnal a chadw uchel.
O ganlyniad, mae'r cabinet wedi cytuno i rentu'r ddau adeilad i sefydliadau allanol er mwyn arbed arian ac adnewyddu adeiladau hanesyddol Caerdydd.
Fe fydd yr Hen Lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd yn dod o dan reolaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae arweinwyr y coleg wedi awgrymu y bydd y safle yn cynnal cerddoriaeth fyw a pherfformiadau ynghyd â Chanolfan Gymraeg Menter Caerdydd ac Amgueddfa Caerdydd sydd eisoes wedi eu lleoli yn yr adeilad.
Fe fydd elusen newydd - sydd wedi'i harwain gan y Gymdeithas Norwyaidd Gymraeg - yn cymryd rheolaeth o'r Eglwys Norwyaidd.
Llun: Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd