Adams a Wainwright yn dychwelyd wrth i Gymru herio Awstralia
Mae hyfforddwr rygbi Cymru Wayne Pivac wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Awstralia ddydd Sadwrn wrth i Gymru chwilio am ddiweddglo positif i Gyfres yr Hydref.
Mae'r ymgyrch hyd yn hyn wedi codi pryderon gan rai cefnogwyr Cymru wrth i'r dynion mewn coch ddioddef canlyniadau siomedig yn erbyn Seland Newydd a De Affrica a chael eu herio'n gadarn gan Fiji dros y penwythnos.
Ond fe fydd sawl wyneb adnabyddus yn dychwelyd i'r tîm gan godi gobeithion y gallai Cymru drechu'r Wallabies yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Mae'r asgellwr Josh Adams, prop Thomas Francis ac wythwr Aaron Wainwright nôl yn y XV cychwynnol ar ôl methu'r gêm yn erbyn Fiji gydag anafiadau.
Fe fydd hyfforddwyr Pivac hefyd yn defnyddio cyfuniad gwahanol yng nghanol y cae am y pedwerydd tro'r Hydref hwn wrth i Uilisi Halaholo a Nick Tompkins ddechrau.
Mae Tomos Williams yn dechrau fel mewnwr ar ôl bod ar y fainc ar gyfer y gêm ddiwethaf tra bod Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr.
Yn y blaenwyr, mae Llew Wyn Jones yn dechrau am y tro cyntaf ers y gweir yn erbyn y Crysau Duon tra bo'r chwaraewr ail reng Seb Davies yn y tîm cychwynnol am y tro cyntaf yn y gyfres.
Ar y fainc, fe fydd y chwaraewr ail reng Ben Carter yn gobeithio chwarae'i gêm gyntaf o'r Hydref a bydd Christ Tshiunza yn ceisio ychwanegu at ei gap cyntaf enillodd dros y penwythnos.
Tîm Cymru
L Williams; Rees-Zammit, Tompkins, Halaholo, Adams; Biggar, T Williams; W Jones, Elias, Francis, Beard, S Davies, Jenkins (c), Basham, Wainwright.
Eilyddion: Dee, G Thomas, Lewis, Carter, Tshiunza, G Davies, Priestland, McNicholl.
Bydd Cymru v Awstralia yn Stadiwm Principality ar ddydd Sadwrn 20 Tachwedd gyda'r gic gyntaf am 17:30.
Fe fydd yr uchafbwyntiau ar S4C am 20:30.
Llun: Asiantaeth Huw Evans