Adroddiad yn nodi ‘safonau gofal pryderus’ yn uned iechyd meddwl Hergest

NS4C 18/11/2021

Fe wnaeth adroddiad hanesyddol sydd wedi ei ryddhau ddydd Iau ddod i’r casgliad fod gofal mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd wedi dangos “safonau gofal pryderus”.

Cafodd adroddiad Holden ei gomisiynu yn 2013 ar ôl i weithwyr Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, godi pryderon am safonau’r gofal.

Mae’r ddogfen wedi ei chyhoeddi yn llawn am y tro cyntaf yn dilyn blynyddoedd o alwadau gan wleidyddion ac ymgyrchwyr ers i grynodeb gal ei rhyddhau yn 2015.

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cyhoeddi’r ddogfen tan i dribiwnlys eu gorfodi i wneud yr wythnos diwethaf.

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod safonau gofal wedi gwella mewn blynyddoedd diweddar. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn sicrhau y bydd yr argymhellion yn "cael eu gweithredu ar frys" gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. 

'Trafferthion difrifol'

Roedd yr uned yn wynebu “trafferthion difrifol” yn ôl yr adroddiad, sydd wedi ei ysgrifennu gan Robin Holden. 

Mae amodau gweithio gwael sy’n achosi morâl isel yn cael eu nodi, yn ogystal â theimladau o anobaith, a bod diffygion yn y berthynas rhwng staff a rheolwyr yn effeithio ar ofal cleifion.

Ymhlith y prif themau y mae'r awdur wedi tynnu sylw atyn nhw mae cyfathrebu gwan, ddifyg ystyriaeth o sabwyntiau staff gan reolwyr, diwylliant o fwlio gan uwch reolwyr. 

Roedd pryderon hefyd am lefelau staffio'r uned sy'n cael eu disgrifio fel "anhrefnus" - gyda rheolwyr yn methu ag ymateb i'r sefyllfa. 

Yn ddiweddar, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "ymddiheuro'n ddiffuant" yn y gofal gafodd Jean Graves yn uned iechyd meddwl Hergest yn 2013.

Yn ôl ei mab David, fe ddioddefodd ei fam nifer o ddigwyddiadau "difrifol" yn yr uned yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Plaid Cymru wedi galw am “atebolrwydd gan bawb sydd wrth y llyw”.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros ogledd Cymru: “Nawr bod yr adroddiad allan yn yr awyr agored, rhaid dechrau ar adfer ymddiriedaeth pobl gogledd Cymru.

“Mae hyn yn dechrau gyda’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hyn y mae’n ei ddatgelu, gan gydnabod erydiad ymddiriedaeth yn y system, ac ymrwmo i ddysgu pob gwers anodd a ddaw yn sgil hyn.

Yn ôl Darren Millar, Aelod o Senedd Cymru a phrif chwip y Ceidwadwyr Cymreig, mae cleifion "wedi eu hesgeuluso".

Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Dwi ddim yn dallt pam mae wedi cymryd mor hir i gyhoeddi'r adroddiad yma.

"Mae'n amlwg bod cleifion wedi cael niwed a esgeuluso pan gafodd yr adroddiad hwn ysgrifennu".              

'Mwy o lawer o waith i'w wneud'

Mae Jo Whitehead Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y bydd adroddiadau tebyg yn cael eu cyhoeddi i'r cyhoedd yn y dyfodol.

"Cymerwyd camau ac maent yn parhau i fod ar waith i gyflawni holl argymhellion Adroddiad Holden ac adroddwyd ar hyn yn gyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhai materion, fel y ffordd rydym yn rheoli'r cymysgedd o gleifion hŷn, wedi bod yn anodd eu datrys, oherwydd dyluniad a chynllun Uned Hergest a'r adnoddau staffio sydd ynghlwm wrthi. Mae opsiynau i fynd i'r afael â hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Ychwanegodd fod adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy'n ymwneud ag Uned Hergest yn dangos bod gwelliannau wedi bod yn safonau gofal, morâl a threfniadau arwain dros y blynyddoedd diwethaf. 

"Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae gennym fwy o lawer o waith i'w wneud er mwyn caniatáu i'n staff ymroddedig gyflwyno'r gofal gorau posibl. Yn gyffredin â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar draws y DU, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran niferoedd staffio, rheoli'r galw am welyau, sicrhau'r cymysgedd priodol o gleifion a delio ag effaith COVID-19.  

"Rydym yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda'n cleifion, eu gofalwyr, ein staff a'n partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac i wella ymddiriedaeth a hyder o ran y gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym yn eu darparu."

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad ac wedi dweud fod y bwrdd iechyd dan oruchwyliaeth y llywodraeth sy'n golygu fod camau clir yn cael eu gwneud i sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau i wella.