Newyddion S4C

Boris Johnson o blaid atal ASau rhag gweithio fel ymgynghorwyr cyflogedig

Sky News 16/11/2021
Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi cefnogi cynlluniau sy’n gwahardd Aelodau Seneddol rhag gweithio fel ymgynghorwyr gwleidyddol neu lobïwyr cyflogedig. 

Daw’r cyhoeddiad yn sgil ffrae yn San Steffan ynglŷn â gwaith lobïo'r cyn AS, Owen Paterson. 

Fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad fod Mr Paterson wedi defnyddio ei safle i lobïo ar ran dau gwmni oedd yn ei dalu. 

Mewn llythyr i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, dywedodd y Prif Weinidog fod angen sicrhau fod rheolau ymddygiad i ASau yn “gyfredol, effeithiol ac yn drylwyr”. 

Ychwanegodd Mr Johnson y dylai diweddaru safonau Aelodau er mwyn sicrhau bod eu gwaith yn “parhau i ennyn hyder gan y cyhoedd”. 

Daeth cyhoeddiad o lythyr y Prif Weinidog funudau yn unig cyn i arweinydd Llafur Syr Keir Starmer siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn amlinellu cynlluniau ei blaid i atal camymddwyn gan Aelodau Seneddol.

Darllenwch y stori’n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.