Covid-19: Cyngor i ymestyn brechlynnau atgyfnerthu i bobl dros 40 oed
Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi argymell y dylai pob person dros 40 oed gael cynnig brechlyn atgyfnerthu Covid-19.
Roedd y JCVI wedi cynghori brechu atgyfnerthu ar gyfer oedolion 50 oed a hŷn a'r rheini mewn grŵp sydd mewn perygl o gael Covid-19.
Caiff y brechlynnau atgyfnerthu eu cynnig i grwpiau penodol i'w helpu i gynnal lefelau uchel o amddiffyniad rhag Covid-19.
Ail frechlyn i blant 16 a 17 oed
Mae'r JCVI hefyd yn argymell y dylid cynnig ail ddos o'r brechlyn Pfizer i bob person ifanc 16 a 17 oed.
Y cyngor meddygol yw eu bod yn derbyn ail ddos 12 wythnos neu fwy yn dilyn dos cyntaf y brechlyn.
Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, Cadeirydd Imiwneiddio Covid- 19 JCVI: "Mae dosau brechlyn atgyfnerthu mewn oedolion sydd fwy agored i niwed, a dosau ail frechlyn ymhlith pobl ifanc 16 - 17 oed yn ffordd bwysig o gynyddu ein hamddiffyniad rhag haint Covid-19.
“Bydd y brechiadau hyn hefyd yn helpu i ymestyn ein hamddiffyniad rhag yr haint i 2022."
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf wrth i astudiaeth newydd ddangos sut y gall y brechlyn ychwanegol gynyddu amddiffyniad pobl yn sylweddol rhag cael symptomau o’r feirws.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddan nhw yn cyflwyno argymhellion y JCVI ac yn disgwyl am ymateb.