COP26: Newidiadau munud olaf i'r cytundeb yn 'siomedig'
Mae Uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 wedi dod i ben.
Ar ôl 15 diwrnod o drafod yng Nglasgow, mae arweinwyr y byd wedi dod i gytundeb ar y camau nesaf i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Ond wrth gyhoeddi'r cytundeb ar ôl diwrnod ychwanegol o drafod, dywedodd Alok Sharma, llywydd yr Uwchgynhadledd mai "buddugoliaeth fregus iawn" ddaeth o COP26.
Felly, beth yw cynnwys y cytundeb a pham fod rhai yn siomedig?
Rhai o brif addewidion y cytundeb
Dyma’r cytundeb mwyaf hanesyddol ar newid hinsawdd ers 2015, pan gyhoeddwyd Cytundeb Paris.
Ddydd Sadwrn, dywedodd Alok Sharma bod arweinwyr y byd wedi cytuno i:
- Leihau defnydd glo a thanwyddau ffosil yn raddol
- Roi mwy o arian i wledydd datblygiedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd
- Ail-ymweld â thargedau i dorri allyriadau y flwyddyn nesaf er mwyn ceisio cyrraedd y prif darged o gadw cynnydd newid hinsawdd i 1.5C
Rhai o'r addewidion eraill
- Mae’r DU wedi dweud ei bod yn anelu i gael 75% o’i ffermwyr i ymrwymo i arferion carbon isel erbyn 2030
- Bydd mwy na 100 o wledydd yn rhoi diwedd ar ddatgoedwigo erbyn diwedd 2030
- Bydd 100 o wledydd yn torri allyriadau nwy methan gan 30% erbyn 2030.
- Mae mwy na 40 o wledydd wedi cytuno i gyflymu targedau ar gyfer technoleg gwyrdd a fforddiadwy yn fyd eang erbyn 2030
Pam fod pobl yn credu na fydd prif darged COP26 cael ei gyflawni?
Prif flaenoriaeth COP26 oedd i “gadw 1.5C” yn fyw. Roedd hyn yn golygu y dylai gwledydd y byd ymrwymo i leihau cynnydd yn nhymheredd y byd i 2°c, gan geisio’i gadw i 1.5°c.
Ond, mae nifer yn dweud nad yw’r addewidion yn y cytundeb yn mynd i gyflawni hynny.
Un o'r rhesymau dros hynny yw y cafodd y cytundeb ei newid yn y munudau olaf wrth i’r geiriad ar addewidion i symud oddi wrth defnyddio glo gael eu haddasu.
Yn lle addo i “atal defnydd glo yn raddol” cafodd y drafft terfynol ei newid i “leihau defnydd glo yn raddol” ar ôl i India bwyso am y newid.
Hynny yw, "phase-down" yn lle "phase-out".
Beth yw’r ymateb?
Dywedodd llywydd COP26, Alok Sharma bod y newidiadau’n “siomedig.”
Wrth iddo gyhoeddi'r cytundeb, dywedodd ei fod yn "deall siomedigaeth pobl" ac ymddiheurodd am sut bu'n rhaid i'r trafodaethau barhau am ddiwrnod ychwanegol.
"Os wnawn ni aros gyda jyst popeth ni wedi cytuno yn Glasgow, dyw hwnna ddim yn mynd i fod yn ddigonol."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 14, 2021
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford sy'n ymateb i gytundeb newid hinsawdd COP26. pic.twitter.com/SmfIlMWSk8
Roedd gweinidogion o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn bresennol yng Nglasgow am rai o'r trafodaethau.
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Newyddion S4C: “Wel mae lot o bethau pwysig wedi cael eu cytuno yn Glasgow. ond mae rhai pethau bydd rhaid i ni fwrw ymlaen i neud fwy.
"Os ni'n mynd i aros jyst gyda phopeth ni wedi cytuno yn Glasgow, bydd hwnna ddim yn yn ddigonol," ychwanegodd.
"Ond maen nhw wedi cytuno i ddod 'nôl 'da'i gilydd a bwrw mlaen i drafod y pethau eraill bydd rhaid i ni gael yn eu lle i delivero ar bopeth o ni wedi cytuno yn barod ym Mharis, dyna ble mae'r gobaith yn dal i fod.”
'Nid dyma'r cytundeb oedd angen'
Ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore dydd Sul, dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, bod ganddi “deimladau reit gymysg” ynglyn â chynhadledd COP26.
Dywedodd: “Nid dyma’r cytundeb oedd ei angen. Mae’r darn papur sydd wedi ei gyhoeddi ar y diwedd yn siomedig iawn mae’n rhaid cyfadde.”
Dywedodd bod y newid i’r drafft terfynol a’r addewidion ar lo yn “siomedig.”
Ond, ychwanegodd bod canlyniadau’r Uwchgynhadledd yn “gychwyn oleiaf” a bod “y frwydr yn parhau, does dim opsiwn arall.”
The #COP26 is over. Here’s a brief summary: Blah, blah, blah.
— Greta Thunberg (@GretaThunberg) November 13, 2021
But the real work continues outside these halls. And we will never give up, ever. https://t.co/EOne9OogiR
Mewn ymateb i'r cytundeb, rhannodd yr ymgyrchydd ifanc Greta Thunberg neges ar ei thudalen Twitter gyda'r dywediad y defnyddiodd sawl gwaith mewn protestiadau yn ystod COP26: "Blah, blah, blah."
Ond, pwysleisiodd bod "y gwaith go iawn yn parhau tu allan i'r neuaddau hyn. A ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi, byth."
Llun: AlokSharma_RDG drwy Twitter