COP26: Newidiadau munud olaf i'r cytundeb yn 'siomedig'

Sky News 14/11/2021

Mae newidiadau munud olaf i gytundeb terfynol COP26 ar newid hinsawdd yn "siomedig" yn ôl llywydd yr Uwchgynhadledd, Alok Sharma.

Wrth iddo gyhoeddi'r cytundeb, dywedodd ei fod yn "deall siomedigaeth pobl" ac ymddiheurodd am sut bu'n rhaid i'r trafodaethau barhau am ddiwrnod ychwanegol.

Yn ôl Sky News, cafodd geiriad yr addewidion am ddefnyddio glo eu newid yn y trydydd drafft i "leihau defnydd glo yn raddol" yn lle "atal defnydd glo yn raddol."

Hynny yw, "phase-down" yn lle "phase-out".

Mae nifer wedi ymateb gan ddweud na fydd y mesurau newydd yn "cadw'r targed o gyfyngu cynnydd newid hinsawdd i 1.5C yn fyw" - sef un o brif flaenoriaethau COP26.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi croesawu'r cytundeb, ond dywedodd bod "mwy sydd angen a rhaid ei wneud."

Darllenwch ragor ar y cytundeb terfynol yma.

Llun: AFP drwy Wotchit