Buddugoliaeth arall i ferched Cymru yng Nghyfres yr Hydref
Mae menywod Cymru wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth yng Nghyfres yr Hydref gan drechu De Affrica o 29-19 yng Nghaerdydd.
Bu Cymru'n dominyddu’r gêm ym Mharc yr Arfau o’r dechrau wrth i'r bachwr Carys Phillips sgorio cais ar ôl pum munud yn ei gêm gyntaf i Gymru ers 2019.
Aeth Cymru’n i mewn i’r egwyl 17 pwynt ar y blaen yn dilyn cais gan y mewnwr, Ffion Lewis a chic gosb gan y maswr, Elinor Snowsnill.
Parhau i roi'r Springboks dan bwysau dwys wnaeth Cymru yn yr ail hanner, gyda Phillips yn llwyddo i sgorio’i hail gais ar ôl 50 munud.
Ond ymatebodd De Affrica yn sydyn i gadw’r gêm yn fyw wrth i'r asgellwr Nomawethu Mabenge ddefnyddio’i phŵer i groesi a gwneud y sgôr yn 22-7.
Llwyddodd Cymru i wrthsefyll pwysau yn y munudau nesaf a sgoriodd Phillips ei thrydedd cais o’r prynhawn ar ôl i Dde Affrica golli chwaraewr i gerdyn melyn.
⭐Llongyfarchiadau @CarysPhillips2⭐
— Welsh Rugby Union 🏉 (@WelshRugbyUnion) November 13, 2021
That's how you make a comeback. #WalesWomen pic.twitter.com/KbB08rjkTy
Er i Gymru haeddu'r fuddugoliaeth, dangosodd De Affrica eu gwydnwch wrth iddynt sgorio dau gais yn y deng munud olaf gan Zintle Mpupha a Libbie Janse van Rensburg.
Serch y canlyniad addawol, mae'n siwr y bydd yr hyfforddwr Ioan Cunningham am weithio ar rai agweddau'r gêm - yn enwedig ardal y ryc - wrth iddynt baratoi i herio Canada mewn wythnos.