Newyddion S4C

Dedfryd o 18 mis i drefnydd taith awyren angheuol Emiliano Sala

12/11/2021
henderson a sala

Mae trefnydd taith awyren angheuol olaf y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi derbyn dedfryd o 18 mis yn y carchar am beryglu diogelwch awyren.

Cafwyd David Henderson , 67 oed o Sir Ddwyrain Efrog, yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Hydref. 

Bu farw Sala, 28, pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i'r môr ger Ynys y Garn ar 21 Ionawr 2019.

Roedd ar y ffordd o glwb pêl droed Nantes yn Ffrainc, lle’r oedd yn chwarae, i’w glwb newydd yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Sala ei ddarganfod fis yn ddiweddarach ond dydy corff y peilot David Ibbotson, 59, o Sir Lincoln heb ei ddarganfod.

Image
teyrngedau
Cafodd teyrngedau eu rhoi i Emiliano Sala tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd, lle'r oedd ar fîn dechrau cyfnod newydd gyda'r clwb. (Llun: Dennis Kallmer)

Roedd Henderson wedi pledio'n euog yn barod i gyhuddiad o drefnu cludo teithiwr heb ganiatâd ac awdurdod, ond roedd wedi gwadu'r cyhuddiad o ymddwyn mewn modd a oedd yn peryglu diogelwch awyren. 

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Foxton wrtho:

“Rydych chi'n beilot masnachol cymwys gyda phrofiad sylweddol a reolodd awyren oedd yn eiddo i eraill. Roeddech chi'n ymwneud â llogi awyrenau yn fasnachol ac weithiau'n eu hedfan eich hunan am dâl, ac hefyd yn rhoi pobl mewn cysyllwllt gyda gwahanol beilotiaid.

“Fe wnaethoch chi drefnu’r hediad heb fod â Thystysgrif Gweithredwr Awyr ac heb systemau diogelwch oedd yn cydymffurfio ac yn ofynnol er mwyn i’r Awdurdod Hedfan Sifil roi Tystysgrif Gweithredwr Awyr i chi.

"Nid darn o bapur yn unig oedd y dystysgrif. Mae rheoliadau a systemau diogelwch awyr wedi'u cynllunio i roi grym iddynt ac maen nhw wedi'u hysgrifennu mewn gwaed."

Gweithred 'oddi ar y radar'

Ychwanegodd y barnwr: “Roeddech yn ymwybodol bod eich gweithred yn anghyfreithlon ac wedi cymryd camau i sicrhau bod y weithred oddi ar y radar cyn belled ag yr oedd yr Awdurdod Hedfan Sifilyn y cwestiwn.

"Dangoswyd hyn gan eich neges i Mr Ibbotson a oedd yn darllen: ‘Mae gan y ddau ohonom gyfle i wneud arian allan o’r model busnes ond nid os ydym yn cynhyrfu cleientiaid neu’n tynnu sylw’r Awdurdod Hedfan Sifil.”

Pwysleisiodd y barnwr nad oedd y dyfarniad yn golygu fod yr hyn ddigwyddodd i hediad olaf Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn ganlyniad uniongyrchol i drefniadau teithio Mr Henderson ar gyfer yr awyren ar y noson honno. Mater i'r crwner yn y cwest oedd y penderfyniad hwnnw meddai Mr Ustus Foxton.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.