
Dros 8,000 achos pendant neu debygol o heintiadau Covid mewn ysbytai Cymru

Dros 8,000 achos pendant neu debygol o heintiadau Covid mewn ysbytai Cymru
Mae mwy na 8,000 o bobl wedi dal Covid-19 tu fewn i furiau ysbytai Cymru, yn ôl ymchwil gan raglen Newyddion S4C.
Mewn ymatebion gan fyrddau iechyd i gais rhyddid gwybodaeth, dangosodd y ffigyrau bod 1,700 o'r achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod 6253 o achosion pendant hyd at ddiwedd Awst, gyda'r gweddill yn cael eu disgrifiol fel achosion 'tebygol' o fod wedi digwydd o fewn ysbytai.
Yn Llantrisant, mae Helen Jensen yn un sydd wedi byw drwy'r boen o golli partner yn gysylltiedig â dal y feirws mewn ysbyty.
Aeth ei phartner, Jeff Blake, i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda niwmonia ym mis Medi llynedd.
Ond ar ôl 10 diwrnod yno, cafodd brawf positif am Covid-19.
Ym mis Mawrth eleni, bu farw Jeff.
Nid Covid-19 oedd achos swyddogol ei farwolaeth. Ond mae Helen yn bendant bod y feirws wedi arwain at ei farwolaeth.

Dywedodd Helen wrth Newyddion S4C: “Dw i’n gwbod yn iawn. Odd o’m di bod tu allan.
“Odd o’n glir pan gath o’i destio’n fan na [yn yr ysbyty] doedd.
Ychwanegodd Helen: “Oedd o’n edrych ymlaen i ddod adra ei hun.
“Ro’s i’r bai i gyd arnaf i achos fi ro’th o’n hospital - ond odd rhaid iddo fo fynd i’r hospital.”

Drwy gyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth, mae Newyddion S4C wedi gallu gweld ym mha ysbytai oedd y broblem fwyaf.
Ni wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel dda ymateb.
Ysbyty Treforys sydd â’r nifer uchaf o achosion – 419 achos oedd yn bendant yn deillio o'r ysbyty a 403 achos oedd yn debygol o ddeillio o'r ysbyty.
Roedd na 331 o achosion pendant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a mwy na 300 hefyd yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Yn ol Tom Giffard AS, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth sydd yn cynnwys ysbyty Treforys, mae’r ystadegau yn sioc, ac yn pwysleisio’r angen am ymchwiliad Covid-19 Cymreig.
“Bydd hwn yn sioc fawr i bobl sydd yn mynd i Ysbyty Treforys ac yn byw yn Abertawe. Mae’n bwysig bod ni fel Aelodau Senedd a phobl sydd gatref yn darllen hwn yn gwbod beth aeth yn iawn a beth allwn ni neud yn well yn y dyfodol.
"Mae’n rhaid i ni gael atebion Cymreig i hwnna. Mae’n rhaid i ni gael ymchwiliad sydd yn edrych mewn iddo fe drwy lens Gymreig i weithio hwnna mas.”
Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, maent wedi rhoi nifer o fesurau mewn lle i rwystro lledaeniad Covid-19, a diweddaru rheolau yn ystod y pandemig.

Mae Undeb Meddygon y BMA wedi dweud bod yn rhaid dysgu gwersi.
Dywedodd Dr Phil White ar ran BMA Cymru: "Dw i'n meddwl bod angen ymchwiliad trylwyr i'r ffigurau hyn.
"Bydd tro nesa. Ry'n ni'n teithio'r byd, mae'r heintiau hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o'r byd," ychwanegodd.
"Dim ond mater o amser yw hi cyn y daw'r haint nesaf. Mae'n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer. Doedden ni ddim wedi paratoi y tro hwn."
Pobl wedi marw 'er gwaethaf mesurau' ysbytai
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi dilyn rheolau'r Deyrnas Unedig o ran rhwystro a rheoli Covid drwy gydol y pandemig, gan ddiweddaru pan fo angen.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth bod y feirws dal wedi lledaenu er gwaethaf pob ymdrech i atal yr ymlediad:
"Er gwaethaf yr holl fesurau i ddiogelu staff a chleifion mewn ysbytai, yn anffodus, mae pobl wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty, ac yn drist iawn, wedi marw.
"Mae bron i filiwn o brofion PCR wedi eu gwneud mewn ysbytai yn ystod y pandemig ac rydym wedi darparu mwy na 1.5m o brofion llif unffordd."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod angen i ymchwiliad y DU ar Covid-19 gynnwys ymchwiliad cyflawn o weithredoedd Llywodraeth Cymru hefyd.