
Rhoi straeon menywod o fyd gwleidyddol Cymru ar gof a chadw
Mae straeon rhai o’r menywod wnaeth chwarae rhan allweddol mewn datganoli yng Nghymru wedi eu rhoi ar gof a chadw mewn archif cenedlaethol.
Mae lleisiau a dogfennau Aelodau a chyn Aelodau o’r Senedd wedi eu cofnodi mewn cynllun o’r enw Gwir Gofnod o Gyfnod, sy’n ffrwyth llafur Archif Menywod Cymru a’r Senedd.
Yn 2003, y Senedd, neu'r Cynulliad ar pryd, oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cyfartaledd 50:50 rhwng menywod a dynion.
Ond tan yn ddiweddar, doedd rhai o’r menywod fu’n Aelodau’r Senedd heb rannu eu profiadau, dogfennau, lluniau a phapurau, tra roedd llawer o’r dynion wedi gwneud.
Yn ôl y rhai sy’n rhan o’r cynllun, bwriad y gwaith oedd gwarchod cyfraniad menywod ac ysbrydoli’r genhedlaeth newydd, dros ugain mlynedd ers sefydlu datganoli yn 1999.
'Tynnu sylw at y pethau pwysig'
Mae mwy na 50 o gyfweliadau yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi eu casglu, gyda’r cyfranwyr yn trafod sut y gwnaethon nhw ddechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, yr heriau y gwnaethon nhw eu wynebu, a’r ymgyrchoedd y gwnaethon nhw eu cynnal a pham.
Mewn recordiad i’r archifau, mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon ers 2016, yn dweud bod ymchwil yn dangos bod y Senedd wedi rhoi mwy o sylw i faterion fel gofal plant a rhannu gwaith na sefydliadau llai cyfartal.
“Mae cael mwy o ferched yn golygu bod bywydau pob merch yn mynd i fod yn well, oherwydd rydyn ni'n tynnu sylw at y pethau pwysig yn ein bywydau,” meddai.

Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, sydd wedi cynrychioli etholaeth Ceredigion ers etholiad cyntaf Cymru ym 1999.
“Roedd gan y Senedd genedlaethol nifer mor sylweddol o fenywod o'r dechrau, fe’i galluogodd i dorri tir newydd. Cafodd effaith wirioneddol ar y ffordd yr esblygodd y Senedd a'r ffordd y gwnaethom wleidyddiaeth.”
Dywedodd Catrin Stevens, cyn-gadeirydd Archif Menywod Cymru ac arweinydd y cynllun fod yr Archif wedi bod yn “pryderu ers tro bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn amharod i adneuo eu papurau gwleidyddol”.
Ychwanegodd fod dynion “wedi bod yn rhagweithiol yn [...] diogelu eu gwaddol gwleidyddol”.
“Mae’r prosiect hwn wedi llwyddo i wyrdroi hyn a sicrhau y bydd cyfraniadau enfawr menywod yn ystod blynyddoedd cyntaf Datganoli yn cael eu diogelu yn eu papurau a’u lleisiau ar gyfer y dyfodol,” meddai.
Mae’r archifau hefyd yn cynnwys straeon rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru cyntaf.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chlipiau o'r recordiadau archif yma