Cymeradwyo cynllun peilot cyfleusterau dros nos i gartrefi modur yng Ngwynedd
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cefnogi argymhelliad i gynnal cynllun peilot mewn hyd at chwech o safleoedd parcio'r cyngor fyddai’n darparu cyfleusterau i gartrefi modur i aros dros nos.
Dros y cyfnodau clo mae'r sir wedi gweld cynnydd aruthrol mewn ymwelwyr mewn cartrefi modur yn parcio mewn mannau answyddogol heb unrhyw gyfleusterau priodol.
Ddydd Mawrth fe wnaeth cabinet y cyngor roi sêl bendith i'r cynllun peilot, ac fe fydd gwaith gorfodaeth yn cael ei gynnal ar y cyd gyda’r peilot ac adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r cabinet i'w ystyried yn y dyfodol.
Cyn y cyfarfod cabinet, dywedodd y Cynghorydd Gareth Wyn Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae Gwynedd wedi datblygu yn gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr mewn cartrefi modur dros y blynyddoedd, ac mae cynnydd amlwg yn y nifer o bobl sy’n berchen y cerbydau yma.
“Oherwydd y poblogrwydd cynyddol yma, rydym fel Cyngor yn awyddus i ystyried y ffordd orau o reoli’r sefyllfa i’r dyfodol. Rydym wedi cynnal gwaith ymchwil manwl gan gynnwys ystyried sut mae ardaloedd eraill o Ewrop yn rheoli’r maes.
“Mae’n glir fod y ddeddfwriaeth genedlaethol sydd yn mynd ôl i’r 1960au angen rhoi ystyriaeth i’r maes yma sy’n datblygu. Mae’n rhaid cwestiynu os yw’r ddeddfwriaeth yn addas i bwrpas erbyn hyn, a byddwn felly yn anfon canfyddiadau ein gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru gan alw arnynt i adolygu’r ddeddfwriaeth ar frys."
Ychwanegodd: “Rydan ni hefyd wedi holi barn ac rydan ni’n ddiolchgar iawn am yr ymateb - mae’r sylwadau sydd wedi eu cyflwyno wedi amlygu yr awydd am reolaeth gwell o’r sefyllfa."
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd fod pobl wedi bod yn llai tebygol o deithio i’r cyfandir dros y ddau haf diwethaf o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, ac roedd y sir wedi gweld "cynnydd o 71% mewn gwerthiant cerbydau modur yn 2019 a 2020.
“Mae’r niferoedd uchel o bobl sy’n ymweld, wedi bod yn destun pryder i rai ardaloedd gyda rhai yn penderfynu aros mewn cartrefi modur mewn lleoliadau lle nad oes hawl cyfreithlon i gysgu mewn cerbyd dros nos. Dyna pam ein bod fel Cyngor yn awyddus i ystyried pa gamau y gellir eu hystyried i wella rheolaeth o’r maes.
“Neges y Cyngor ar hyd y cyfnod yma ydi i bobl sy’n dewis ymweld â Gwynedd i fod yn bwyllog, trefnu o flaen llaw a thrin ein cymunedau gyda pharch. Fe wyddwn ni fod anghenion a phatrwm teithio perchnogion cartrefi modur yn gallu bod yn wahanol i bobl sy’n dod yma mewn carafán neu i wersylla mewn pabell.
"Rydym yn ymwybodol fod yna drefniadau mewn rhai ardaloedd eraill o Brydain ac ar gyfandir Ewrop lle mae cartrefi modur yn aros yn gyfreithlon dros-nos mewn rhannau penodedig o feysydd parcio cyhoeddus a safleoedd sydd wedi eu darparu’n bwrpasol ar gyfer cartrefi modur.
“Bwriad y peilot yma yng Ngwynedd fyddai annog ymwelwyr mewn cerbydau modur i aros mewn tref neu bentref gan gynnig elfen o fudd economaidd i’r gymuned leol a chael rheolaeth well dros y sector."