Galw am ymchwiliad i gamddefnydd honedig AS Ceidwadol o’i swyddfa swyddogol
Mae Aelod Seneddol y Torïaid, Syr Geoffrey Cox wedi ei gyhuddo o ddefnyddio ei swydd fel gwleidydd i wneud gwaith preifat ar gyfer ymchwiliad Ynysoedd Prydeinig y Wyryf.
Yr gred yw fod Syr Geoffrey wedi ennill cannoedd o filoedd o bunnoedd am ei waith gyda'r ynysoedd.
Dywed Syr Geoffrey nad yw'n credu ei fod wedi torri'r rheolau ond y bydd yn cydweithio ag unrhyw ymchwiliad.
Yn ôl y Mirror, mae honiadau ei fod wedi'i leoli yn y Caribî yn gynharach eleni, ond wedi defnyddio rheolau pleidleisio dirprwyol y cyfnod clo i barhau i wneud ei ddyletswyddau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd y Dirprwy arweinydd Llafur, Angela Rayner fod hyn yn “syfrdanol ac yn torri y rheolau yn haerllug.”
Mae Mrs Rayner wedi ysgrifennu at y comisiynydd safonau Kathryn Stone yn gofyn iddi am “arweiniad ar ddechrau ymchwiliad ffurfiol ar y mater hwn”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, ei fod yn gwrthod gwneud sylw ar achosion unigol, ond nododd mai “prif swydd AS yw gwasanaethu eu hetholwyr a chynrychioli eu buddiannau yn y Senedd”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: PA