
ASau yn cymeradwyo ehangu'r defnydd o basys Covid i sinemâu a theatrau
Mae Aelodau'r Senedd wedi pleidleisio i ehangu'r cynllun pasys Covid-19 ar gyfer eu defnyddio mewn rhagor o fannau cyhoeddus.
O ddydd Llun nesaf, fe fydd angen i unrhyw un dros 18 oed ddefnyddio pas Covid i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Pleidleisiodd aelodau'r Senedd o 39 i 15 o blaid y cynnig.
Mae'r pas yn gallu cael ei ddefnyddio drwy dystiolaeth o frechiadau Covid-19 neu ganlyniad prawf negyddol.
Mae'r pas eisoes yn ofynnol mewn clybiau nos a rhai digwyddiadau torfol mawr.
Bu dwsinau o bobl yn protestio yn erbyn y defnydd o basys Covid-19 ar risiau'r Senedd brynhawn dydd Mawrth.
Mae'r Senedd wedi pleidleisio i ehangu'r defnydd o basys Covid yng Nghymru i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 9, 2021
Ond beth yw'r farn ar lawr gwlad? 👇
Mwy yma ➡️ https://t.co/yNBNGo3lSi pic.twitter.com/YGwmayNnBF
Mae'r ymateb gan fusnesau i'r penderfyniad yn gymysg.
Dywedodd David Grace, Cadeirydd Bwrdd Theatr Mwldan, nad oedd yn rhagweld y byddai "lot yn wahanol" i'r theatr yn Aberteifi gan fod nifer o fesurau eisoes ar waith yno.
Ond yn ôl Dai Jones sy'n berchen ar westy, ni fyddai'r pasys Covid yn "rhy dda" i fusnes fel sydd ganddo.
Er nad yw pasys Covid wedi eu cyflwyno yn y diwydiant lletygarwch hyd yma, mae'r llywodraeth eisoes wedi dweud bod hynny dan ystyriaeth os bydd achosion o'r feirws ar gynnydd erbyn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau coronafeirws.
'Sefyllfa ddifrifol'
Wrth siarad ar lawr y Siambr, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Eluned Morgan fod y cyfraddau presennol o achosion Covid-19 yng Nghymru yn rhoi "pwysau ar y gwasanaeth iechyd sydd eisoes dan bwysau aruthrol".
Ychwanegodd y Gweinidog tra bo'r brechlyn wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng dal y feirws a datblygu salwch difrifol, doedd y "cysylltiad ddim wedi ei dorri'n llwyr".
Dywedodd y Gweinidog bod y sefyllfa yn "ddifrifol" a byddai ehangu'r cynllun pasys brechu yn helpu i gadw busnesau ar agor dros gyfnod yr Hydref a'r Gaeaf.

Fe gefnogodd Plaid Cymru'r blaid Lafur i sicrhau bod y newidiadau yn dod i rym.
Dywedodd Llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mai brechu oedd "yr amddiffyniad gorau" rhag y feirws ac mae "ceisio osgoi cyfyngiadau mwy" oedd bwriad y cynllun.
'Sylfaen beryglus'
Roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu'r cynlluniau, gyda'r ddwy blaid yn codi cwestiynau am effeithlonrwydd y cynllun.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer y Cyfansoddiad Darren Millar fod y defnydd o basys Covid yn gosod "sylfaen beryglus" ac yn dweud "nad oedd unrhyw dystiolaeth" fod y pasys yn lleihau lledaeniad y feirws.
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds fod pasys Covid "yn gwneud rhai pobl yn llai tebygol i gael eu brechu a gwahaniaethu yn erbyn rhai o fewn cymdeithas".
Mae disgwyl i'r newidiadau i'r cynllun pasys Covid ddod i rym ar ddydd Llun, 15 Tachwedd.