25,000 o ddisgyblion i siarad y Wyddeleg am 24 awr
09/11/2021
Bydd miloedd o fyfyrwyr yn Iwerddon yn cymryd rhan mewn sialens ddydd Mawrth i siarad y Wyddeleg am 24 awr.
Mae dros 25,000 o ddisgyblion mewn 270 o ysgolion yn cymryd rhan yn her Gaelige24, sydd wedi ei threfnu gan y mudiad iaith Conradh na Gaelige.
Yn debyg i'r Gymraeg, cafodd siarad y Wyddeleg ei gwahardd yn y gorffennol mewn sawl rhan o Iwerddon - gan gynnwys ysgolion.
Nod ymgyrch yr Conradh na Gaelige yw annog pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o'u bywydau.
Darllenwch y stori llawn yma.
Llun: Oliver Dixon