Newyddion S4C

Baw cŵn ar un o gaeau chwarae'r brifddinas yn cythruddo clwb rygbi ieuenctid

08/11/2021
Caeau Pontcana

Mae clwb rygbi yng Nghaerdydd yn gofyn i berchnogion cŵn i fod  yn "llawer mwy cyfrifol" wrth glirio baw eu hanifeiliaid oddi ar gaeau chwarae'r brifddinas. 

Daw'r alwad ar ôl i blentyn 10 oed ddisgyn i ganol baw ci aeth dros ei gorff wrth chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ar gaeau Pontcanna ddydd Sul. 

Dywedodd y clwb bod ymddygiad "diog ac anghyfrifol" rhai perchnogion cŵn yn "annerbyniol" a bu rhaid gohirio'r gêm dan-11 oed er mwyn i'r plentyn ymolchi.

Image
Baw ci ar goes plentyn

Bu ymateb chwyrn i'r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol gydag un person yn dweud: "Afiach. Mae'n amser i roi mwy o ddirywion i berchnogion cŵn anghyfrifol."

"Ni ddylwn ganiatáu cŵn ar gaeau chwarae rhagor," ychwanegodd un arall. 

Dywedodd y newyddiadurwr Wyre Davies, is-gadeirydd tîm ieuenctid Clwb Rygbi Cymry Caerdydd wrth Newyddion S4C bod hi'n beryglus i adael baw ci ar gaeau lle mae plant yn chwarae ar y penwythnos. 

"Mae fe’n horrible i blentyn, dim ond 10 mlwydd oed oedd y boi ‘ma," meddai. 

"Oedd baw ci ar ei grys, ar ei goesau, ar ei ddwylo, os mae’n mynd mewn i lygad pobl mae gallu bod yn ddifrifol iawn."

Image
Baw ci ar blentyn

Yn ôl Mr Davies, mae'r broblem yn codi yn aml ac mae angen i berchnogion cŵn gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hanifeiliaid. 

"Mae’n rhywbeth ni’n wynebu bron pob dydd Sul, ti’n gwybod ti’n trio delio gyda baw ci ond ma gymaint ambell waith," meddai. 

"Mae’n rhywbeth ni wedi cael digon gyda, dyle pobl bod yn gyfrifol os mae eu cŵn nhw yn mynd ar y caeau.

"Ni’n galw i bobl gyda cŵn i fod llawer mwy cyfrifol na maen nhw reit nawr", ychwanegodd.

Cafodd rheolau newydd eu cyhoeddi gan Gyngor Caerdydd ar ddechrau mis Hydref i geisio sicrhau bod mwy o bobl yn clirio baw eu cŵn ym mharciau'r brifddinas. 

Yn ôl llefarydd, mae perchnogion cŵn sydd ddim yn clirio ar ôl eu hanifeiliaid neu yn methu cario bagiau i glirio'r baw yn wynebu dirwy o £100. 

Lluniau: Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.