Apêl ar deuluoedd i gefnogi cleifion ysbytai'r gogledd adref er mwyn rhyddhau gwlâu
Mae datganiad ar y cyd gan fwrdd iechyd, gwasanaeth ambiwlans ac awdurdodau lleol y gogledd yn galw ar deuluoedd cleifion sydd mewn ysbytai ac yn aros am ddarpariaeth pecynnau gofal i gefnogi eu hanwyliaid adref os oes modd.
Daw’r alwad oherwydd anawsterau i ryddhau cleifion sy’n ddigon iach yn feddygol o’r ysbyty oherwydd diffyg capasiti mewn cartrefi gofal a phrinder gweithwyr gofal mewn cymuedau ar draws y gogledd.
Daeth y datganiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Cyngor Sir Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam ddydd Gwener.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae'r prinder gwlâu yn effeithio llawdriniaethau, yr amser y mae ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan i Adrannau Achosion Brys, gyda llai o barafeddygon yn gallu ymateb i alwadau brys.
Fel modd o ryddhau gwlâu mae’r bwrdd yn glaw ar deuluoedd i gefnogi anghenion gofal eu hanwyliaid adref "dros dro".
"Os yw eich perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cefnogaeth a gofal yn y tymor byr.
“Os ydych yn teimlo bod hyn yn opsiwn y gallwch ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu eich gweithiwr cymdeithasol i edrych ar hyn ymhellach."
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn cydnabod bod yna ddiffyg cenedlaethol yn y nifer o weithwyr gofal ond rydym yn teimlo hyn o ddifrif yng Ngogledd Cymru ac er gwaethaf gwneud popeth o fewn ein gallu i recriwtio, rydym angen rhagor o bobl yn y swyddi hyn, a hynny ar fyrder."
Yn ôl y datganiad mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn “well i gleifion ac mae’n golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys.”
Mae’r datganiad yn ymgais i leddfu’r baich ar ysbytai'r bwrdd sydd â dros 100 o gleifion gyda Covid-19 mewn ysbytai a tua 10 ohonynt yn derbyn triniaeth mewn Unedau Gofal Dwys ar hyn o bryd.