
Trafod gwasanaethau profedigaeth i deuluoedd sy’n colli plant yn sydyn

Mae gwleidyddion yn y Senedd wedi bod yn trafod cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd sy’n colli plant yn sydyn, yn dilyn deiseb oedd yn galw am newid.
Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth yr elusen 2Wish gyflwyno’r ddeiseb a gofyn i gefnogaeth profedigaeth fod ar gael yn syth i unrhyw un sydd wedi colli plentyn.
Mae’r ddeiseb, gafodd mwy na 5,000 o lofnodion, yn cael ei thrafod gan bwyllgor ddydd Mercher ac mae disgwyl datganiad yn ddiweddarach.
Mae’r elusen 2Wish yn galw am newidiadau fyddai’n sicrhau cefnogaeth yn syth i unrhyw riant sy’n colli plentyn neu oedolyn dan 25 yn sydyn.
Dywedodd datganiad ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am sicrhau bod teuluoedd yn derbyn “y gefnogaeth a’r gofal sydd ei angen.” Ychwanegodd y llywodraeth eu bod wedi gweithio gydag elusennau i wella gwasanaethau ac mae grant ar gael i gyrff trydedd sector.

Un person sydd o blaid y ddeiseb yw Nadine Marshall, mam Conner Marshall, gafodd ei lofruddio yn 2015. Fe wnaeth hi dderbyn cymorth gan 2Wish yn dilyn marwolaeth Conner.
Mae Nadine Marshall wedi canmol yr elusen am fynd “tu hwnt i’w disgwyliadau” ers y digwyddiad erchyll.
“Mae 2Wish wedi rhoi cyfle i ni fyw gyda galar mewn modd positif ac unigryw,” meddai.
“Rydym wedi manteisio o therapi amrywiol, cwnsela a chyfeillgarwch.”
Fe wnaeth Rhian Mannings sefydlu’r elusen yn 2012 ar ôl colli ei mab George yn flwydd oed. Fe arweiniodd y profiad hwnnw at hunanladdiad ei gŵr, Paul, bum niwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd Ms Mannings: “Pan gollon ni George, naethon ni adael yr ysbyty heb ddim byd, yn unig ac yn ofni.
“Daeth neb, wnaeth neb ymestyn help llaw i ni, ar wahân i deulu a ffrindiau oedd hefyd yn galaru. Rwy’n benderfynol bydd hyn byth yn digwydd eto i deulu yng Nghymru.”
Dywedodd lefarydd ar ran y llywodraeth: “Mae colli plentyn yn drychinebus ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu teuluoedd â’r holl ofal a chefnogaeth sydd ei angen.
“Dros y ddwy flynedd ddiwetha rydym wedi gweithio gyda nifer o elusennau yn cynnwys 2Wish fel rhan o’r Grwp Lliwio Profedigaeth Cenedlaethol i adolygu a gwella gwasanaethau profedigaeth ar draws Gymru.”
Prif Lun: Rhian Mannings a'i theulu tu allan i adeilad y Senedd yng Nghaerdydd (Llun ITV)