Newyddion S4C

Galwadau i ailagor gweithdy yn Sir Ddinbych sy'n helpu pobl ag anableddau

Newyddion S4C 02/11/2021

Galwadau i ailagor gweithdy yn Sir Ddinbych sy'n helpu pobl ag anableddau

Mae safle sy’n rhoi cyfle i bobl ag anableddau wneud gwaith pren yn “drysor” ddylai ailagor, yn ôl teuluoedd y sawl sy’n ei ddefnyddio.

Ers dechrau’r pandemig mae Cynnyrch Coed Meifod yn Ninbych wedi bod ar gau, ac mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei ddyfodol.

Ymhlith yr opsiynau mae ailagor gyda llai o wasanaethau, rhoi’r ganolfan i sefydliad allanol, neu ei chau’n gyfan gwbl.

Ond mae perthnasau’r defnyddwyr yn rhybuddio bod “dim byd tebyg i Meifod” ac nad oes rhaid “newid rhywbeth sy’n gweithio mor dda”.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych, sy’n gyfrifol am y safle, y byddai "cynlluniau cefnogi unigol” yn helpu i gefnogi defnyddwyr Meifod pe bai “unrhyw foderneiddio neu welliannau” yn cael eu cyflwyno.

'Fel un teulu mawr'

Mae Eurwyn Davies, 64 o Lannefydd, wedi bod yn mynd i Meifod ers ei fod yn 16 oed.

“Dyna ydy ei fywyd o wedi bod, roedd o’n mynd bob dydd ac wrth ei fodd yn mynd yne,” meddai ei chwaer, Megan Thomas, sy’n 74.

“Maen nhw fel un teulu mawr yna, i gyd yn edrych ar ôl ei gilydd. Aeth Eurwyn i lawr yn ofnadwy ar ôl i Meifod stopio - oedd o’n isel ofnadwy ac yn gwneud dim ond gorwedd ar y soffa yn torri’i galon. 

“Dwi’n meddwl ‘sa hi’n bechod ‘san nhw’n ei gau o lawr. Dwi ddim yn gweld pam bod isio newid rhywbeth sy’n gweithio mor dda.”

Image
Eurwyn Davies
Dywedodd chwaer Eurwyn Davies bod y gweithdy yn rhan mawr o fywyd

Yn ôl dogfennau’r cyngor, mae sawl rheswm dros newid y ddarpariaeth, gan gynnwys cwymp yn y nifer sy’n cael eu cyfeirio at Meifod, a’r gostyngiad yn nifer y defnyddwyr cyn y pandemig.

Mae’r safle hefyd yn ddrytach i’w redeg na gwasanaethau amgen, ac mae pryderon hefyd ynghylch costau cynyddol pren a gwres.

Ond mae’r lle yn “drysor” yn ôl Brenda Jones o Ruthun. Mae’n dweud bod ei mab 25 oed, Dewi, yn ei “nefoedd” ym Meifod.

“Does ‘na ddim byd tebyg i Meifod, full stop. Mae gen i ffrindiau mewn siroedd eraill fuasai wrth eu bodd ‘tasa’u plant nhw yn cael mynd i rywle fel Meifod.

'Dim opsiwn arall'

Mae Brenda’n teimlo’n “chwerw iawn” am yr opsiynau sydd wedi eu cyflwyno gan y cyngor, ac a gafodd eu cyflwyno i’r teuluoedd mewn “ymarfer ymgysylltu” diweddar.

“Roedd angen opsiwn arall, ond chafodd hi mo’i chynnig,” meddai.  “Yr opsiwn arall fyddai agor Meifod fel oedd o cynt.”

Image
Brenda a Dewi Jones
Roedd Brenda Jones ddim yn hapus gyda'r opsiynnau arall cafodd eu cynnig gan y cyngor

Mae hi’n credu bod mwy o alw am y gwasanaeth na’r hyn mae’r cyngor yn ei honni, gan ddweud bod “’na ddim gwaith yn y gymuned” fyddai’n addas i rai defnyddwyr Meifod.

Bydd cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried y mater ar 23 Tachwedd, ond mae pwyllgor craffu eisoes yn argymell buddsoddi mwy yn y safle.

“Dwi’n gobeithio wnawn nhw dderbyn yr argymhelliad am wariant sylweddol ar Meifod i’w ailagor o,” meddai Brenda.

“Ac yn ail, dwi’n gobeithio wnawn nhw sylweddoli, os wnawn nhw ddod â phethau eraill i mewn i Meifod, mi fedran nhw’i ddifetha fo.

“Ydy, mae pren yn ddrud - ond mi fedrwch chi wario £1,000 ar bren ac fe gewch chi ddwywaith hynny yn ôl drwy greu dodrefn allan ohono fo.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn “gwybod cymaint mae’r gymuned yn gwerthfawrogi Meifod” wrth drafod ei ddyfodol.

“Rydym ni wedi gweithio gyda phobl oedd yn defnyddio Meifod, eu teuluoedd a chyfranddalwyr yn ystod y broses hon a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw wrth inni symud ymlaen,” meddai.

Ychwanegodd y byddai “unrhyw foderneiddio neu welliannau” i’r gwasanaeth yn dod ochr yn ochr â “chynlluniau cefnogi unigol” fyddai’n “galluogi unigolion i ddelio ag unrhyw newidiadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.