Newyddion S4C

Hawl i gymryd prawf llif unffordd wrth ddychwelyd o dramor

31/10/2021
maes awyr

Mae newidiadau i’r rheolau teithio rhyngwladol wedi dod i rym yng Nghymru.

O ddydd Sul, ni fydd angen i bobl sydd wedi eu brechu’n llawn gymryd prawf PCR wedi iddynt ddychwelyd i Gymru.

Yn hytrach, fe fydd hawl iddynt gymryd prawf llif unffordd.

Daw hyn wythnos wedi i’r un newid gael ei gyflwyno i deithwyr sy’n dychwelyd i Loegr.

Fe fydd y newid hefyd yn berthnasol i’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc dan 18 oed.

Bydd yn rhaid i deithwyr gymryd y prawf hyd at yr ail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd mewn datganiad mae’r rheswm nad oedd y newidiadau wedi eu cyflwyno yng Nghymru wythnos yn ôl oedd oherwydd diffyg gwybodaeth amserol gan Lywodraeth y DU.

Mae Eluned Morgan AS wedi pwysleisio y dylai Llywodraeth y DU fod yn fwy gofalus wrth ail-agor teithio rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobl i deithio dramor am resymau hanfodol.

Wrth gyhoeddi’r newid yn Lloegr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Iechyd Sajid Javid y byddai’n “hwb anferthol” i’r diwydiant teithio ac y byddai’n “haws ac yn rhatach” i archebu gwyliau a theithio dramor.

Ond fe bwysleisiodd Mr Javid y dylai unrhyw un sy’n derbyn canlyniad positif i brawf llif unffordd wedyn gael prawf PCR.

Llun: Joshua Woroniecki

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.