
Llywodraeth y DU ‘ddim yn siarad’ â datblygwyr ynni adnewyddadwy

Llywodraeth y DU ‘ddim yn siarad’ â datblygwyr ynni adnewyddadwy
Mae cefnogwyr prosiectau morlyn llanw yn dweud eu bod yn “boenus” nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siarad gyda nhw.
Mae cynlluniau morlyn llanw yn defnyddio amrediad uchder y llanw a’i redeg drwy dyrbinau tanddwr mewn morglawdd i gynhyrchu trydan.
Cafodd cynllun newydd fyddai’n cynhyrchu 320MW o ynni ei gyhoeddi ar gyfer Bae Abertawe ddechrau’r wythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan fod angen “tystiolaeth gref” o “werth am arian”.
'Dewch i siarad 'da ni'
Roedd Ioan Jenkins yn gweithio ar gynllun blaenorol ar gyfer Bae Abertawe a gafodd ei wrthod gan y llywodraeth dair blynedd yn ôl.
Mae’n dadlau mai ychydig iawn mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud gyda’r sector ers hynny.
“Lan i heddi, mae’n anodd cael dealltwriaeth o ble mae nhw,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Nagyn nhw wedi bod yn siarad ‘da ni - ni’n barod i adeiladu llawer o’r rhain dros Gymru, dros Brydain a dros y byd.
“Beth ni’n gofyn i San Steffan yw ‘Dewch i siarad ‘da ni; dewch i ni weithio ‘da’n gilydd i ffeindio ateb’.”

Mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i roi caniatâd i brosiectau ynni hyd at 350MW, ond rhaid i unrhyw gynllun mwy na hynny gael caniatâd gan Lywodraeth Prydain.
Un o’r prosiectau hynny ydy Ynni Morol Gogledd Cymru sydd am godi morglawdd 2.3GW yn ymestyn 31km o Brestatyn yn Sir Ddinbych i Landudno yn Sir Conwy.
Mae’r Cadeirydd, Henry Dixon, hefyd yn arwain corff sy’n cynrychioli’r sector, y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw.
Mae’n dweud bod y prosiect yn y gogledd wedi dod i stop.
“Fel llawer o ddatblygwr eraill ar gyfer ynni uchder llanw, dydy ni ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth a dydyn ni ddim yn deall hynny a ninnau ag argyfwng ynni.
“Ym Mhrydain, mae gyda ni adnodd unigryw, gallai 5-10% o’r trydan ym Mhrydain gael ei gynhyrchu o’r llanw - a ‘den ni’n cael ein hanwybyddu.”

Yn 2017, fe wnaeth adolygiad gan y cyn-Weinidog Ynni, Charles Hendry, gefnogi cynlluniau ar gyfer morlyn ym Mae Abertawe, gan ddweud na fyddai’r llywodraeth yn “difaru”.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y prosiect yn cynnig gwerth am arian.
Yn ôl y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw, mae gwelliannau yn y dechnoleg yn golygu nad yw asesiadau blaenorol “yn gywir bellach”.
Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi £20m i gynnal asesiad annibynnol newydd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain £120m i’r diwydiant niwclear ymchwilio i adweithyddion modwlar bychain.
'Yn fater trist iawn'
Mae John Idris Jones yn un o arweinwyr prosiect ynni llif llanw Morlais ar Ynys Môn ac mae ganddo brofiad yn y maes ynni niwclear yn Wylfa.
Mae’n dweud ei bod hi’n “drist” nad ydy ynni amrediad uchder llanw yn cael rhagor o sylw ac na all y llywodraeth yn San Steffan “fforddio ei anwybyddu”.
“Maen nhw’n sôn am ddad-garboneiddio y system drydan i gyd erbyn 2030. Mae nhw’n gweld bydd yr angen am drydan yn codi beth bynnag 50%. Imi dydyn nhw ddim yn gallu fforddio anwybyddu unrhyw ffynhonnell o ynni carbon isel.
“Mae’r morlynnau yma’n rhan o’r gymysgedd sy’n rhaid eu cael os ydy’r llywodraeth yn Llundain ac yng Nghaerdydd o ddifrif ynglŷn â net-sero.”
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Her Morlyn Llanw cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan: “Mae gan forlynnoedd llanw rhan bwysig i’w chwarae wrth gynhyrchu ynni.
“Ar ôl trafod a phrofi’r farchnad, mae Llywodraeth Cymru am ddatblygu cynnig eang ac arloesol fydd yn rhoi’r gobaith gorau o ddatblygu a phrofi ynni morlyn ym moroedd Cymru.”
“Bydd Her Morlyn Ynni yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Mae ein harfordir yn cynnig potensial enfawr i gynhyrchu ynni glan ac mae Llywodraeth Prydain yn parhau’n agored i gynigion da i ddefnyddio ynni amrediad uchder llanw.”
“Er mwyn cystadlu gyda thechnolegau carbon isel eraill, bydd angen i gynllun amrediad uchder llanw ddangos tystiolaeth gref o werth am arian, budd economaidd, arbedion ynni ac ystyriaethau amgylcheddol.”