Gwraig yr actor Ioan Gruffudd yn ei gyhuddo o 'dwyllo arni' am dair blynedd

Mirror 27/10/2021

Mae gwraig yr actor Ioan Gruffudd wedi ei gyhuddo o dwyllo arni am dair blynedd gyda’i bartner newydd, meddai The Mirror.

Gwnaeth Alice Evans y cyhuddiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i Mr Gruffud a’i bartner Bianca Wallace gyhoeddi eu perthynas yn swyddogol fore dydd Mercher.

Yn ôl The Mirror, rhannodd gwraig yr actor neges ar Twitter yn dilyn cyhoeddiad y par newydd gan ddweud:

“Felly mae’n debyg bod fy ngwr, ar ôl dwy flynedd o ddweud wrthaf fy mod i’n berson gwael ac nad ydw i’n gyffrous a dyw e ddim eisiau cael rhyw gyda fi bellach… wedi bod mewn perthynas am DAIR blynedd tu ôl ein cefnau. Pob lwc Bianca.”

Mae Ioan Gruffudd a Ms Evans wedi gwahanu, ac mae ffrindiau Mr Gruffydd wedi ei amddiffyn gan ddweud nad oes sail i'r neges.

Mae’r Mirror wedi gofyn am ymateb gan gynrychiolwyr Ioan Gruffudd.

Darllenwch y stori’n llawn yma.