Covid-19: Ysbytai bwrdd iechyd yn y de yn 'ei chael hi'n anodd ymdopi'
Mae ysbytai un o fyrddau iechyd y de yn "ei chael hi'n anodd ymdopi" gyda'r nifer o gleifion yn ei ysbytai, yn ôl un o gyfarwyddwyr y Bwrdd.
Dywedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fod ysbytai yn ardal y Bwrdd yn wynebu'r cyfraddau uchaf o'r coronafeirws yng Nghymru.
Dywedodd Dr Aitken: "Mae'n ysbytai yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda bron i 200 o gleifion yn ein gwelyau ysbytai gyda'r coronafeirws ar ben y sawl sy'n arbennig o sâl ac sydd angen triniaeth ar gyfer canser a chyflyrau’r galon, yn ogystal â’r sawl sy’n aros am lawdriniaeth.
“Mae angen i ni gyd gymryd y risg gyfredol o heintiau coronafeirws o ddifrif a gwneud popeth fedrwn ni i amddiffyn ein hunain, ein teulu a’n ffrindiau", ychwanegodd.
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod tair sir yng Nghymru â chyfraddau coronafeirws sy'n uwch na 1,000 o achosion i bob 100,000 o bobl - pob un o'r rhain yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Rhwng 15 a 21 Hydref, roedd y gyfradd o achosion Covid-19 ar ei huchaf ym Mlaenau Gwent, lle'r oedd 1,329.8 achos i bob 100,000 o bobl.
Roedd gan Gaerffili a Thorfaen hefyd gyfraddau o dros 1,000 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.
'Dod â'r cyfraddau'n is'
Fe bwysleisiodd Dr Aitken yr angen i bobl gael eu brechu er mwyn ceisio lleihau cyfraddau coronafeirws yn yr ardal.
“Mewn tonnau blaenorol, roedd y bobl oedd yn byw yng Ngwent yn wych gan wneud yr hyn oedd yn ofynnol a dod â’r cyfraddau’n is fel bod ein hysbytai’n gallu ymdopi", meddai.
“Yn anffodus, dwi angen gofyn i chi wneud hynny eto oherwydd mae’r don bresennol nawr yn cyrraedd y pwynt lle, ar ben popeth arall mae’n hysbytai yma i wneud, rydym yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r nifer o bobl yn yr ysbyty gyda’r coronafeirws”.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau adolygiad o'r cyfyngiadau presennol ar draws Cymru ddydd Gwener.
Mae gweinidogion eisoes wedi cadarnhau ei bod yn ystyried cryfhau'r mesurau presennol sydd mewn grym, gan gynnwys ehangu'r cynllun pasys Covid i fwy o leoliadau.