Awstralia i groesawu teithwyr rhyngwladol 'cyn diwedd y flwyddyn'
27/10/2021
Bydd Awstralia yn croesawu teithwyr rhyngwladol yn ôl i'r wlad erbyn diwedd y flwyddyn, yn ôl prif weinidog y wlad.
Fe fydd yn rhaid i unrhyw ymwelwyr fod wedi derbyn dau frechiad i'w hamddiffyn rhag Covid-19, yn ôl Scott Morrison.
Mae ffin ryngwladol Awstralia wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 er mwyn lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws drwy'r wlad, yn ôl MailOnline.
Mae 1,669 o bobl wedi marw o Covid-19 yn Awstralia, o'i gymharu â 140,000 yn y DU a 739,000 yn yr UDA.
Darllenwch fwy ar y stori yma.