Sala: Rhan trefnydd awyren yn yr hediad angheuol yn 'fater gwaith papur'

Nid oedd cyfarwyddwr awyren a ddisgynnodd o'r awyr gan ladd y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi ymddwyn yn fyrbwyll, yn ôl cyfreithwyr ar ran y diffynnydd.
Fe glywodd rheithgor ddydd Mawrth, fod rhan David Henderson yn y digwyddiad yn "fater gwaith papur yn unig", yn ôl Sky News.
Mae Henderson wedi ei gyhuddo o beryglu diogelwch awyren oedd yn cario chwaraewr Caerdydd Sala, 28, a'r peilot David Ibbotson, 59, a fu farw ger ynys Guernsey ym mis Ionawr 2019.
Mae erlynwyr yn dweud fod Henderson wedi ymddwyn yn "fyrbwyll" a pheryglu'r hediad.
Mae'r achos yn parhau.
Darllenwch y diweddaraf yma.
Llun: CPD Caerdydd