Achosion Covid yn 'uchel' ond awdurdodau'n gobeithio am 'leihad cyn hir'
26/10/2021Achosion Covid yn 'uchel' ond awdurdodau'n gobeithio am 'leihad cyn hir'
Mae awdurdodau iechyd yn gobeithio eu bod nawr yn dechrau gweld achosion o Covid-19 yn gostwng.
Dywedodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru tra bo'r achosion yn parhau'n "uchel" mae'r corff yn gobeithio "y gwelwn ni leihad cyn hir".
Fe gyrhaeddodd cyfradd achosion Covid-19 ei lefel uchaf erioed dros y dyddiau diwethaf, ond mae arwyddion cynnar ei bod yn dechrau gostwng.
Roedd y gyfradd o achosion o'r feirws yng Nghymru dros yr wythnos hyd at 20 Hydref yn 730 i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Ond roedd y gyfradd yn ystod yr wythnos hyd at 21 Hydref yn 719.9 fesul 100,000 o bobl.
Dydd Mawrth fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fanylion diweddaraf am y nifer o bobl sydd wedi marw â Covid-19 yng Nghymru.
Bu farw 61 o bobl â Covid-19 yn yr wythnos hyd at 15 Hydref.
Roedd hyn ychydig yn is na'r wythnos flaenorol, pan nodwyd bod 68 o bobl wedi marw yn sgil Covid-19 ar dystysgrifau marwolaeth.
Dywedodd Dr Davies wrth raglen Newyddion S4C: "Ma’r modelu’n dodi lot o fesuriadau mathemategol i fewn i’r system i weld sut ma’r feirws yn lledaenu ac ma’r modelu hyn yn dangos bod na debygolrwydd wrth i’r haint ledaenu’n eang a’r brechu i fod yn effeithiol, y bydd yr haint yn lleihau yn niferoedd yr achosion.
"Felly ar hyn o bryd gyda’r heintiau uchel yn y bobl ifainc, fe fydd na nifer o rheiny wedyn yn gwella a ddim yn gallu cael eu heintio eto.
"Hefyd mae’r rhaglen frechu yn golygu bod imiwnedd trwy frechu hefyd ar lefelau uchel iawn.
"Felly mae’n wir i ddweud bod y ffigurau’n uchel ar hyn o bryd.
"Mae’n bwysig i edrych ar y ffigurau fesul saith diwrnod a fesul dros gyfnod yn hytrach na o ddydd i ddydd trwy’r amser, ond ma’r ffigurau’n uchel, mi oedden ni’n disgwyl iddyn nhw fod yn uchel mor gynted a symudon ni i’r sefyllfa o lefel rhybudd sero lle odd pobl yn cymysgu fwy ag y’n ni yn gobeithio bod y ffigurau’n dangos bach o wastadu nawr ac y gwelwn ni leihad cyn hir".
Gyda adolygiad Llywodraeth Cymru ar fesurau Covid-19 ddydd Gwener, mae'r cabinet wedi bod yn trafod unrhyw newidiadau posib ⬇️ pic.twitter.com/IfOSWjtV3R
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) October 26, 2021
Daeth cabinet Llywodraeth Cymru ynghyd ddydd Llun i drafod unrhyw newidiadau posib i'r mesurau wrth i'r Prif Weinidog gynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws presennol ddydd Gwener.
Dywedodd Mark Drakeford wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn "debygol" y bydd Cymru'n aros yn Lefel Rhybudd Sero ond y gallai'r llywodraeth fod yn llymach gyda'r rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd.
Dywedodd: "Wel mae'r cabinet wedi cwrdd ar ddydd Llun. Beth ni'n ystyried yw, beth allwn ni wneud i dynnu fwy mas o'r mesurau sydd 'da ni ar lefel 0.
"I trial i berswadio fwy o bobl i weithio gytre’ pan maen nhw'n gallu neud e," ychwanegodd.
"I fod yn glir 'da bobl y gyfraith yng Nghymru yw, mae'n rhaid i chi ddefnyddio mygydau os chi'n mynd mewn i siopa er enghraifft.
Ychwanegodd y Prif Weinidog y gallai'r pàs Covid gael ei ddefnyddio'n fwy eang hefyd.
Dywedodd: "A ni'n mynd i feddwl hefyd am os ni'n gallu neud fwy i ddefnyddio'r pás Covid.
"Ni wedi lansio'r pás Covid, mae wedi bod yn llwyddiannus ar hyn o bryd. Os ni'n gallu tynnu mwy mas o hynny hefyd."
Bydd y manylion llawn am unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau Covid yn cael eu datgelu ddydd Gwener 29 Hydref.